Y Polisi a’r Weithdrefn Disgyblu - Chwefror 2021
Yn yr adran hon
10. Achwyniadau a Godwyd yn Ystod Achos Disgyblu
Yn ystod y broses ddisgyblu, os yw gweithiwr yn codi achwyniad, rhaid i’r Cyfarwyddwr Adrannol neu ei gynrychiolydd ystyried a yw’n briodol atal y broses ddisgyblu dros dro er mwyn ymdrin â’r achwyniad. Lle mae cysylltiad rhwng yr achos disgyblu a’r achos achwyniad gall fod yn briodol ymdrin â’r ddau ar yr un pryd. Ni ddylid atal y broses am gyfnod rhy faith heb fod angen a phan fo’r broses yn cael ei hatal dylai hynny ei gwneud yn bosibl ymdrin â’r achwyniad mor gyflym â phosibl. Dylid ceisio cyngor gan Ymgynghorydd Adnoddau Dynol a chyfeirio at Ganllaw ACAS.