Y Polisi a’r Weithdrefn Disgyblu - Chwefror 2021
Yn yr adran hon
- 9. Terfynau Amser ar gyfer Rhybuddion Ysgrifenedig
- 10. Achwyniadau a Godwyd yn Ystod Achos Disgyblu
- 11. Swyddogion yr Undeb Llafur
- 12. Cyhuddiadau Troseddol a Rhybuddion neu Euogfarnau y tu allan i'r Gwaith
- 13. Apeliadau
- 14. Cadw Cofnodion
- 15. Monitro’r Polisi a’r Weithdrefn
- 16. Cydraddoldebau
12. Cyhuddiadau Troseddol a Rhybuddion neu Euogfarnau y tu allan i'r Gwaith
Os yw gweithiwr yn cael ei gyhuddo, ei rybuddio neu ei gael yn euog o drosedd nad yw'n gysylltiedig â gwaith, nid yw hyn yn rheswm dros gymryd camau disgyblu. Bydd yn rhaid casglu'r ffeithiau a phenderfynu a yw'r mater yn ddigon difrifol neu'n berthnasol i'w swydd. Bydd yr un broses ymchwilio a disgyblu yn berthnasol ac nid oes angen aros am ganlyniad unrhyw erlyniad.
Nid yw gweithwyr sy'n absennol o'r gwaith yn cael eu diswyddo ar unwaith os ydynt yn cael eu cadw yn y ddalfa. Yn yr achosion hyn, dylid ceisio cyngor gan Ymgynghorydd Adnoddau Dynol.