Y Polisi a’r Weithdrefn Disgyblu - Chwefror 2021
Yn yr adran hon
14. Cadw Cofnodion
• Rhaid cadw cofnodion ysgrifenedig trwy gydol y broses ddisgyblu, gan gynnwys:
- Y gŵyn yn erbyn y gweithiwr.
- Amddiffyniad y gweithiwr.
- Canfyddiadau a wnaed a'r camau a gymerwyd.
- Y rhesymau dros y camau a gymerwyd.
- A gyflwynwyd apêl ai peidio.
- Canlyniad yr apêl.
- Unrhyw achwyniadau gwynion a godir yn ystod y weithdrefn ddisgyblu, a
- Datblygiadau dilynol.
- Copi o'r holl ohebiaeth sy'n ymwneud â'r broses ymchwiliad disgyblu, gwrandawiad ac apêl.
- Copïau o nodiadau unrhyw gyfarfodydd ffurfiol.
• Dylid cadw cofnodion ar ffeil bersonol y gweithiwr.
• Dylid trin y cofnodion fel dogfennau cyfrinachol a'u cadw'n unol â Deddf Diogelu Data 2018.
• Os yw gweithiwr yn cael ei gynrychioli gan swyddog Undeb Llafur neu gydweithiwr, bydd copïau o rybuddion ynghylch cyfarfodydd disgyblu, nodiadau’r cyfarfodydd hynny, llythyr ymateb ac ati yn cael eu hanfon at yr unigolyn hwnnw, oni bai fod y gweithiwr yn hysbysu fel arall yn ysgrifenedig.
Hyfforddiant a Chymorth
• Bydd yn rhaid i bob Swyddog a Chynghorydd sy'n rhan o'r broses ddisgyblu dderbyn cymorth a/neu hyfforddiant priodol. Cysylltwch â'r Tîm Datblygu Galwedigaethol i gael rhagor o wybodaeth.