Y Polisi a’r Weithdrefn Disgyblu - Chwefror 2021
Yn yr adran hon
3. Egwyddorion Cyffredinol
• Bydd y rheolwr llinell yn ystyried gweithredu anffurfiol, lle bo hynny'n briodol, i ddatrys mân doriadau disgyblaeth.
• Gellir atal yr ymchwiliad disgyblu neu'r weithdrefn ffurfiol ar unrhyw adeg i archwilio cyfryngu fel ffordd o ddatrys y mater disgyblu os cytunir arno gan y Cyfarwyddwr perthnasol neu'r cynrychiolydd a enwebwyd a'r gweithiwr.
• Dim ond pan na fydd dewis arall y dylid ystyried atal gweithiwr o'r gwaith â thâl a dylid rhoi gwybod i'r gweithiwr sydd wedi'i atal nad ystyrir hyn yn gam disgyblu a sut y bydd tâl yn cael ei gyfrifo yn ystod y cyfnod hwn. Mae er lles pob parti i gynnal yr ymchwiliad a’r gwrandawiad disgyblu (os yw'n briodol) cyn gynted ag y bo modd. Dylid parhau i adolygu unrhyw gyfnod atal a rhoi gwybod i'r gweithiwr am y cynnydd o ran yr ymchwiliad yn rheolaidd. (Sylwer mewn rhai achosion, bydd yn rhaid rhoi ystyriaeth i ofynion Safonau a Chodau Proffesiynol sy'n rheoli cam-drin plant ac oedolion sy'n agored i niwed). Rhaid ymgynghori â’r Ymgynghorwyr Adnoddau Dynol - Rheoli Pobl cyn gwneud penderfyniad i atal aelod o’r staff o’r gwaith dros dro.
• Lle bynnag y bo modd, hysbysir gweithwyr o'r gŵyn a wnaed yn eu herbyn o'r dechrau a chynhelir ymchwiliad teg i unrhyw honiadau a wnaed cyn dechrau camau disgyblu. Fel rhan o'r ymchwiliad, rhaid i weithiwr, lle bynnag y bo modd, gael cyfle i ymateb i'r honiadau.
• Os na chaiff y gŵyn neu'r honiadau eu cadarnhau, yn dilyn ymchwiliad, bydd yr holl gyfeiriadau at y mater yn cael eu dileu o ffeil bersonol y gweithiwr a chofnodion cysylltiedig eraill.
• Bydd swyddogion sy'n ymchwilio i fater disgyblu honedig yn cael eu hatal rhag dyfarnu arno.
• Ar holl gamau ffurfiol y weithdrefn bydd gan y cyflogai hawl i ddod â chydymaith i unrhyw gyfarfod. Gall cydymaith fod yn gynrychiolydd neu swyddog undeb llafur neu’n gydweithiwr. (Rhaid i’r cynrychiolydd Undeb Llafur nad yw’n un o swyddogion cyflogedig undeb llafur feddu ar ardystiad ysgrifenedig gan ei Undeb sy’n cadarnhau ei fod yn meddu ar brofiad neu ei fod wedi cael hyfforddiant mewn gweithredu fel cydymaith. Gall hyn fod ar ffurf cerdyn neu lythyr).
• Rhoddir o leiaf 14 diwrnod calendr o rybudd ysgrifenedig o wrandawiad disgyblu i weithwyr (ac eithrio mewn achosion o Gamymddygiad Difrifol lle gallai fod yn briodol delio â'r mater cyn gynted â phosibl). Gellir lleihau'r cyfnod rhybudd hwn trwy gydgytundeb ond dylai fod yn ddigon hir i'r gweithiwr baratoi.
• Yn yr hysbysiad ysgrifenedig o'r gwrandawiad, rhoddir gwybod i'r gweithiwr am natur y gŵyn a rhoddir copïau ysgrifenedig o dystiolaeth a datganiadau tystion perthnasol iddo cyn y gwrandawiad disgyblu.
•Yn y gwrandawiad bydd cyfle gan y gweithiwr i nodi ei achos cyn i'r panel disgyblu wneud unrhyw benderfyniad.
• Os na all gweithiwr fod yn bresennol mewn gwrandawiad disgyblu, rhaid iddo roi'r rhesymau cyn gynted â phosibl. Os yw’r rheswm y tu hwnt i reolaeth y gweithiwr ac yn anrhagweladwy ar yr adeg y trefnwyd y cyfarfod (e.e. salwch), bydd gwrandawiad arall yn cael ei drefnu. Os nad yw’r cynrychiolydd neu swyddog Undeb Llafur neu gydweithiwr yn gallu bod yn bresennol, gellir trefnu dyddiad arall, ar yr amod ei fod yn ddim hwyrach na 7 diwrnod calendr ar ôl y dyddiad gwreiddiol.
• Gall peidio â mynd i wrandawiad disgyblu heb reswm da arwain at wneud penderfyniad yn absenoldeb y gweithiwr.
• Os penderfynir bwrw ymlaen â gwrandawiad disgyblu heb i weithiwr fod yn bresennol, dylai gael y cyfle i anfon cynrychiolydd i fod yn bresennol yn y cyfarfod ar ei ran neu i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig y gellir eu hystyried yn y gwrandawiad.
• Os yw gweithiwr yn cael ei gynrychioli gan gynrychiolydd neu swyddog Undeb Llafur neu gydweithiwr, anfonir copïau o hysbysiadau gwrandawiad disgyblu, datganiadau tystion, rhybuddion ysgrifenedig, ac ati at yr unigolyn hwnnw, oni bai bod y gweithiwr yn cynghori fel arall, yn ysgrifenedig.
• Ni fydd diswyddo fel arfer yn briodol ar gyfer torri rheolau disgyblu am y tro cyntaf ac eithrio yn achos camymddygiad difrifol, pan gyflwynir y gosb o ddiswyddo heb rybudd na thaliad yn lle rhybudd.
• Mae'n arfer da rhoi o leiaf un cyfle i weithwyr wella cyn iddynt gael rhybudd ysgrifenedig terfynol. Fodd bynnag, os yw'r camymddygiad yn ddigon difrifol e.e. oherwydd bod unrhyw barhad yn debygol o gael effaith niweidiol ar yr Awdurdod neu ei wasanaethau, yna gallai fod yn briodol cyflwyno rhybudd ysgrifenedig terfynol yn syth.
• Rhoddir esboniad ysgrifenedig i weithiwr am unrhyw gosb ddisgyblu a bydd ganddo'r hawl i apelio yn erbyn y camau disgyblu.
• Gellir amrywio'r dyddiadau cau a gynhwysir yn y weithdrefn gyda chydgytundeb.
• Gellir cynnig cefnogaeth a chwnsela i weithwyr sy'n rhan o ymchwiliad disgyblu a gwrandawiadau. Cysylltwch â’r Ymgynghorwyr Adnoddau Dynol – Rheoli Pobl a Pherfformiad i gael cyngor.
• Rhaid i Swyddogion Ymchwilio ac aelodau o’r Panel Gwrandawiadau Disgyblu ystyried anghenion gweithwyr anabl yn ystod y broses a gwneud addasiadau rhesymol fel y bo angen. Er enghraifft, sicrhau bod gan leoliadau fynediad priodol, bod gwybodaeth ysgrifenedig yn cael ei darparu mewn fformat addas, a.y.b.