Y Polisi a’r Weithdrefn Disgyblu - Chwefror 2021
Yn yr adran hon
4. Rolau a Chyfrifoldebau
• Darperir y canlynol fel canllaw yn unig. Efallai y bydd amgylchiadau sy'n pennu dyraniad gwahanol o rolau a chyfrifoldebau. Dylai’r holl swyddogion sy’n debygol o fod yn rhan o ymchwiliadau neu wrandawiadau disgyblu gael hyfforddiant a/neu gymorth priodol. Cysylltwch â’r Ymgynghorydd Adnoddau Dynol i gael cyngor.
Rheoli Pobl. Er mwyn sicrhau cysondeb bydd Ymgynghorwyr Adnoddau Dynol - Rheoli Pobl yn rhoi cyngor ym mhob cam o'r weithdrefn ac yn monitro ac yn adrodd ar y drefn o weithredu'r Polisi. Bydd yr Ymgynghorydd Adnoddau Dynol hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod cofnodion ysgrifenedig yn cael eu cadw yn y ffeiliau personol am y cyfnod priodol, gan ddilyn egwyddorion y Ddeddf Diogelu Data.
Swyddogion Ymchwilio. Fel rheol, cynhelir yr ymchwiliad gan reolwr llinell y gweithiwr (gyda chyngor gan Ymgynghorydd Adnoddau Dynol), a fydd yn gyfrifol am gyfweld â'r gweithiwr a'r tystion, cymryd nodiadau ac ar ôl casglu'r ffeithiau, creu adroddiad ysgrifenedig yn amlinellu eu hargymhellion ynghylch a oes achos i'w ateb. Os cytunir mai dim ond camau gweithredu anffurfiol sydd angen eu cymryd, bydd y rheolwr llinell fel arfer yn delio â hyn. Os bydd yr achos yn cael ei gyfeirio at wrandawiad disgyblu, bydd y swyddog ymchwilio fel arfer yn cyflwyno'r achos i'r gwrandawiad. Os ystyrir ei bod yn amhriodol i’r rheolwr llinell gynnal ymchwiliad, gall swyddog arall arwain (Gweler y Polisi Ymchwiliadau neu siaradwch ag Ymgynghorydd Adnoddau Dynol i gael cyngor).
Y Panel Gwrandawiad Disgyblu. Bydd y Panel fel arfer yn cynnwys cynrychiolydd o'r Adran (Cyfarwyddwr neu Bennaeth Gwasanaeth neu'r cynrychiolydd a enwebwyd), Ymgynghorydd Adnoddau Dynol, a rhywun sy'n cymryd nodiadau (a ddarperir gan yr adran sy'n cyflogi). Cyfrifoldeb yr adran sy’n cyflogi gyda chyngor gan Ymgynghorydd Adnoddau Dynol fydd gweinyddu’r gwrandawiad gan gynnwys llythyrau rhybudd disgyblu, coladu dogfennau ategol, trefnu bod tystion yn bresennol, ac ati, fel y bo’n briodol. Bydd y Panel yn clywed ffeithiau'r achos ac yn penderfynu a yw camau disgyblu yn briodol ai peidio ac os felly pa lefel o gamau fydd angen eu cymryd. Bydd canlyniad y gwrandawiad yn cael ei gadarnhau'n ysgrifenedig gan y Cyfarwyddwr Gwasanaeth neu'r cynrychiolydd a enwebwyd. Y Panel Gwrandawiad Disgyblu sy'n penderfynu ynghylch diswyddo'r gweithiwr ond cadarnheir hyn yn ysgrifenedig gan y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl).