Y Polisi a’r Weithdrefn Disgyblu - Chwefror 2021

5. Y Weithdrefn

Ymchwiliad 

• Pan fydd mater disgyblu posibl yn codi, dylai'r swyddog ymchwilio iddo yn unol â'r Polisi Ymchwilio. Dylid cadw cofnodion ysgrifenedig o unrhyw gyfweliadau gyda'r gweithiwr neu'r tystion. Ar ôl dwyn ynghyd y ffeithiau, rhaid i'r swyddog ymchwilio lunio adroddiad ysgrifenedig yn amlinellu ei ganfyddiadau ac unrhyw argymhellion.  Os ystyrir, yn dilyn ymchwiliadau, fod y mater yn un bach ac nad yw'n briodol ei gyfeirio at wrandawiad disgyblu ffurfiol, ni fydd angen adroddiad ysgrifenedig a delir â'r gweithiwr yn anffurfiol (gweler paragraffau 31 - 33).

Anffurfiol  

• Os penderfynir bod y mater yn un bach, yna byddai'n well delio â hyn yn anffurfiol. Dylai rhywun siarad â'r gweithiwr a darparu cefnogaeth iddo wella megis hyfforddiant neu gyngor ychwanegol (os yw'n briodol). Dylid gwneud cofnod o'r cyfweliad a'i ganlyniad, a fydd yn cael ei gadw (gyda chopi i'r gweithiwr) gan y rheolwr llinell.  

• Gan y bwriedir i hwn fod yn gyfarfod un i un anffurfiol, fel rheol ni fydd gan weithwyr  yr hawl i gael cwmni yn y cyfarfod. 

• Os na fydd gweithredu anffurfiol yn arwain at welliant neu os ystyrir bod y mater yn rhy ddifrifol i gael ei ystyried yn un bach, yna rhaid ymgymryd â'r weithdrefn ffurfiol.  

Ffurfiol

• Rhaid sefydlu gwrandawiad disgyblu a rhaid hysbysu'r gweithiwr yn ysgrifenedig o ddyddiad, amser a lleoliad y gwrandawiad, yr hawl i ddod a rhywun gyda chi, y weithdrefn i'w dilyn a gwybodaeth ddigonol am y camymddygiad honedig a'i ganlyniadau posibl er mwyn galluogi'r gweithiwr i baratoi i ateb yr achos, gan gynnwys datganiadau tystion ac unrhyw ddogfennau perthnasol eraill. Pan fydd y gweithiwr neu'r swyddog ymchwilio yn bwriadu galw tystion perthnasol dylai roi rhybudd ymlaen llaw eu bod yn bwriadu gwneud hynny.  

• Yn y gwrandawiad, dylai'r Panel esbonio'r gŵyn yn erbyn y gweithiwr a mynd trwy'r dystiolaeth a gasglwyd. Dylid caniatáu i'r gweithiwr nodi ei achos ac ateb unrhyw honiadau a wnaed. Dylai hefyd gael caniatâd i ofyn cwestiynau, cyflwyno tystiolaeth, galw tystion a chodi pwyntiau am unrhyw wybodaeth a ddarperir gan dystion.  

• Ar ddiwedd y gwrandawiad, bydd y Panel yn penderfynu a oes cyfiawnhad dros gymryd camau disgyblu ac os felly, ar ba ffurf. Efallai na fydd y penderfyniad hwn o reidrwydd yn cael ei wneud ar yr un diwrnod ond bydd yn cael ei wneud a bydd y gweithiwr yn cael gwybod am y penderfyniad ac, os yw'n briodol, y camau disgyblu sy'n deillio ohono, yn ysgrifenedig cyn pen 7 diwrnod gwaith. Os nad yw hyn yn ymarferol, gellir ymestyn y cyfnod amser trwy gydgytundeb.