Gweithio Hyblyg Polisi
Yn yr adran hon
Atodiad 2
- Meddyliwch yn ofalus am y patrwm gweithio cyn ichi wneud eich cais. Ni fydd hawl gennych i ddychwelyd i'ch oriau gwaith blaenorol.
- Byddwch yn eglur ynghylch y dyddiad yr hoffech i’r patrwm gweithio newydd ddechrau. Caniatewch ddigon o amser i fynd drwy'r weithdrefn.
- Llenwch Ffurflen FW (A) bob amser wrth gyflwyno’ch cais. Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn darparu’r holl wybodaeth berthnasol ac angenrheidiol i’r Awdurdod fel y gall ystyried eich cais yn briodol.
- Po fwyaf o rybudd y byddwch yn ei roi yn eich cais, y mwyaf tebygol y bydd eich rheolwr llinell yn gallu bodloni'r dyddiad dechrau a ffafrir gennych.
- Ystyriwch oblygiadau ariannol eich cais cyn ei gyflwyno.
- Mae o fantais i chi ddarparu cymaint o fanylion ag sy’n bosibl am y patrwm gweithio yr hoffech ei gael.
- Ystyriwch yr effaith ar eich cydweithwyr os bydd eich patrwm gweithio yn newid.
- Cefnogwch eich cais trwy restru’r manteision i’r busnes o gymeradwyo cais am weithio’n hyblyg, er enghraifft, dangos sut y byddai’ch cais yn rhoi sicrwydd ychwanegol yn ystod oriau brig gan wella gwasanaeth cwsmeriaid.
- Sicrhewch eich bod yn cyflwyno’ch cais i’r swyddog priodol i’w ystyried.
- Os ydych ar fin dechrau cyfnod mamolaeth neu rannu absenoldeb rhiant meddyliwch yn ofalus ynghylch pryd i gyflwyno eich cais. Os ydych yn bwriadu i'ch cais, os cymeradwywyd ef, ddechrau pan fyddwch yn dychwelyd i'r gwaith, bydd angen i chi gwrdd â'ch rheolwr llinell yn ystod eich cyfnod mamolaeth neu rannu absenoldeb rhiant.
- Byddwch yn barod i ymhelaethu ar unrhyw bwyntiau yn eich cais.
- Byddwch yn barod i fod yn hyblyg – er enghraifft, ystyried patrymau gwaith eraill, cyfnodau prawf neu ddyddiadau dechrau eraill.
- Os ydych yn bwriadu gwneud cais am gael cwmni yn y cyfarfod, sicrhewch fod eich cydymaith wedi cael brîff llawn am eich cais.