Gweithio Hyblyg Polisi
Yn yr adran hon
13. Seiliau Busnes dros Wrthod Cais
Yn anffodus, gall anghenion neu amgylchiadau gwasanaeth olygu na ellir bodloni cais am weithio hyblyg yn unol â’r patrwm gweithio a ddymunir gan y gweithiwr neu gytuno ar gyfaddawd. O dan y ddeddfwriaeth, dim ond oherwydd un neu ragor o’r rhesymau canlynol y gellir gwrthod ceisiadau:
- Baich costau ychwanegol.
- Effaith niweidiol ar y gallu i ateb y galw gan gwsmeriaid.
- Anallu i ad-drefnu gwaith ymhlith y staff presennol.
- Anallu i recriwtio staff ychwanegol.
- Effaith niweidiol ar ansawdd (y gwasanaeth).
- Effaith niweidiol ar berfformiad.
- Dim digon o waith yn ystod y cyfnodau y mae’r gweithiwr yn bwriadu gweithio.
- Newidiadau sydd yn yr arfaeth o ran y strwythur.
Bydd y rheolwr llinell yn cofnodi’n eglur ac yn darparu i’r gweithiwr y sail/seiliau dros wrthod cais yn ogystal ag esbonio’n eglur sut mae’r sail/seiliau penodedig yn berthnasol dan amgylchiadau ei gais. Dylid llenwi Ffurflen FW (C) fel y nodir uchod.