Gweithio Hyblyg Polisi
Yn yr adran hon
18. Tynnu Cais yn Ôl
Bydd adegau pan fydd cais yn cael ei drin fel un sydd wedi'i dynnu'n ôl. Ym mhob achos, mae'n rhaid gwneud cofnod ysgrifenedig.
O dan y ddeddfwriaeth, os bydd gweithiwr yn tynnu cais yn ôl ar ôl ei gyflwyno i’r rheolwr llinell, dim ond un cais arall y bydd y gweithiwr yn gallu ei wneud o fewn cyfnod treigl o 12 mis ar ôl dyddiad y cais gwreiddiol. Dylai gweithwyr gwblhau Ffurflen FW (G) a'i chyflwyno i'w rheolwr llinell.
Mae tri rheswm pam gallai cais gael ei drin fel un sydd wedi'i dynnu'n ôl:
- Mae'r gweithiwr yn penderfynu tynnu'r cais yn ôl.
- Mae'r gweithiwr yn methu â bod yn bresennol mewn dau gyfarfod.
- Bod y gweithiwr yn gwrthod yn afresymol roi'r wybodaeth ofynnol i'r rheolwr llinell.
Bydd y rheolwr llinell priodol, y Pennaeth Gwasanaeth, y Cyfarwyddwr, y Prif Weithredwr Cynorthwyol neu ei gynrychiolydd enwebedig yn ysgrifennu at y gweithiwr i gadarnhau hyn.