Canllawiau Safonau Ymddygiad (Gwerthoedd craidd diwygiedig) - Hydref 2024

1. Cyflwyniad

Nid yw Cyngor Sir Caerfyrddin (Ni) yn goddef gwahaniaethu, erledigaeth, bwlio, aflonyddu rhywiol ac aflonyddu sy'n gysylltiedig â nodwedd warchodedig berthnasol o unrhyw fath. Rydym yn disgwyl i'r holl weithwyr, h.y. prentisiaid, gweithwyr contract (staff asiantaeth, ymgynghorwyr, contractwyr) a chyflogeion (chi) i ddangos ymddygiad o'r safon uchaf wrth gyflawni eu dyletswyddau a'ch cyfrifoldebau. I gyrraedd y safon hon mae'n hanfodol eich bod yn gweithio mewn amgylchedd cefnogol, lle nad yw ymddygiad annerbyniol, yn cynnwys aflonyddu trydydd parti o unrhyw fath, yn cael ei oddef. Rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd gwaith lle caiff pawb eu trin yn deg a chydag urddas a pharch.

Mae gennym ddyletswydd gofal ac ymagwedd dim goddefgarwch at wahaniaethu, bwlio, aflonyddu rhywiol, aflonyddu cysylltiedig â nodwedd warchodedig berthnasol neu fictimeiddio o unrhyw fath. Ymchwilir i'r holl bryderon yn unol â'n polisïau a'n gweithdrefnau a chymerir camau priodol. Gall achosion o ymddygiad annerbyniol arwain at gamau disgyblu hyd at, a chan gynnwys, diswyddo.

Mae'r canllawiau hyn yn cyflwyno'r safonau ymddygiad y mae gennych yr hawl i'w disgwyl gan eraill ac y disgwylir i chi eu dangos tuag at eraill. Hefyd, mae'n esbonio sut i adnabod ymddygiad annerbyniol a delio ag ef. Diffinnir bwlio ac aflonyddu yn Adran 7 ac Atodiad 1.

Dylid darllen y canllawiau hyn ar y cyd â'r canlynol:

Nod y canllawiau yw:

  • Sicrhau urddas yn y gweithle i bawb.
  • Parchu a gwerthfawrogi gwahaniaethau.
  • Gwneud defnydd llawn o dalentau pob aelod o'r gweithlu.
  • Atal gweithredoedd o wahaniaethu, aflonyddu, fictimeiddio, eithrio, triniaeth annheg ac ymddygiadau diraddiol neu negyddol eraill.
  • Dangos ein hymrwymiad i gyfleoedd cyfartal i bawb.
  • Bod yn agored ac yn adeiladol yn ein cyfathrebiadau.
  • Rheoli gwrthdaro canfyddedig.
  • Bod yn deg ac yn gyfiawn yn ein gweithredoedd.
  • Addysgu ein gweithlu o ran datblygu ymddygiadau cadarnhaol yn unol â gweledigaeth a gwerthoedd ein sefydliad.

Mae’r canllawiau’n diffinio ymddygiad annerbyniol ac yn nodi strategaethau y gall pawb eu defnyddio i oresgyn effeithiau gwanychol ymddygiad o’r fath. Fodd bynnag, bwriad a nod allweddol y canllawiau yw i ddisgwyl a hyrwyddo ymddygiad derbyniol fel y ffordd orau o atal ymddygiad annerbyniol.

Bydd yn rhaid rhoi'r canllawiau hyn ar waith yn gyson mewn perthynas â'r holl weithwyr heb ystyried hil, lliw, cenedl (gan gynnwys dinasyddiaeth), tarddiad ethnig neu genedlaethol, iaith, anabledd, crefydd, cred neu anghred, oedran, rhywedd, ailbennu rhywedd, hunaniaeth rhywedd neu fynegiant rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, statws rhiant neu briodasol, beichiogrwydd na mamolaeth.