Canllawiau Safonau Ymddygiad - Hydref 2024
Yn yr adran hon
- 1. Cyflwyniad
- 2. Cwmpas
- 3. Cyfrinachedd
- 4. Rolau a Chyfrifoldebau
- 5. Ymddygiad Derbyniol
- 6. Ymddygiad Annerbyniol
- 7. Diffinio Gwahaniaethu (Uniongyrchol neu Anuniongyrchol), Fictimeiddio, Bwlio, Aflonyddu Rhywiol ac Aflonyddu
- 8. Seiberfwlio
- 9. Penderfynu P'un a yw Ymddygiad Annerbyniol yn Digwydd
- 10. Galluogrwydd, ymddygiad a rheoli cadarnhaol
- 11. Dysgu a Datblygu
- 12. Datrys Pryderon Ynghylch Ymddygiad Annerbyniol
- 13. Camau Ffurfiol
- 14. Aflonyddu Trydydd Parti
- 15. Cwynion Maleisus
- 16. Sicrhau Cyfle Cyfartal
- Atodiad 1 - Diffiniadau
- Atodiad 2 - Rheoli Perfformiad
- Atodiad 3 - Ffyrdd Anffurfiol o Ddatrys Gwrthdaro
- Atodiad 4 - Rheoli Gwrthdaro
- Atodiad 5 - Cysylltiadau Allweddol o Ran Safonau Ymddygiad
14. Aflonyddu Trydydd Parti
Trydydd parti yw rhywun y mae gweithiwr yn rhyngweithio ag ef/hi fel rhan o'i swydd ond nad yw'n cael ei gyflogi gan yr Awdurdod.
Dyma rai enghreifftiau:
Preswylydd – ymwelydd â chanolfan gyswllt neu Hwb.
Defnyddiwr gwasanaeth – mewn cartref wrth ofalu amdanynt.
Cyswllt busnes – mewn cyfarfod neu mewn cynhadledd.
Unrhyw staff nad ydynt yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol, fel contractwyr, ymgynghorwyr neu weithwyr asiantaeth.
Rhieni yn rhyngweithio â staff a gyflogir gan un o ysgolion yr Awdurdod.
Gall aflonyddu trydydd parti arwain at atebolrwydd cyfreithiol ac ni chaiff ei oddef.
Fe'ch anogir i roi gwybod i'ch rheolwr llinell yn y lle cyntaf am unrhyw achos o aflonyddu trydydd parti, a'i gofnodi'n ffurfiol gan ddefnyddio gweithdrefnau adrodd; gweithdrefnau adrodd damweiniau a digwyddiadau yr Awdurdod.
Cynghorir rheolwyr i gymryd camau rhagweithiol a rhesymol i atal aflonyddu posibl gan drydydd partïon. Er enghraifft:
Cyfathrebu allanol yn rhannu polisi'r Awdurdod ar aflonyddu trydydd parti yn gorfforaethol neu cyn ymgysylltu â grwpiau trydydd parti, e.e. cyfarfodydd ymgynghori cyhoeddus.
Arddangos arwyddion, lle bo'n briodol, fydd yn amlwg iawn i drydydd partïon, yn nodi na oddefir aflonyddu o unrhyw fath gan drydydd parti.
Defnyddio negeseuon wedi'u recordio ar ddechrau galwadau ffôn yn nodi'r ymddygiad a ddisgwylir tuag at weithwyr a pha gamau a gymerir os bydd ymddygiad amhriodol.
Adolygu Diogelwch personol ac asesiadau risg ar gyfer y tîm, gan ystyried aflonyddu trydydd parti fel risg benodol.
Cymryd camau dilynol priodol os bydd achos o aflonyddu trydydd parti, gan ofyn am gyngor gan Bartneriaid Busnes Rheoli Pobl (Adnoddau Dynol, Dysgu a Datblygu a/neu Iechyd Galwedigaethol, Diogelwch a Llesiant) fel y bo'n briodol.
