Canllawiau Safonau Ymddygiad - Hydref 2024
Yn yr adran hon
- 1. Cyflwyniad
- 2. Cwmpas
- 3. Cyfrinachedd
- 4. Rolau a Chyfrifoldebau
- 5. Ymddygiad Derbyniol
- 6. Ymddygiad Annerbyniol
- 7. Diffinio Gwahaniaethu (Uniongyrchol neu Anuniongyrchol), Fictimeiddio, Bwlio, Aflonyddu Rhywiol ac Aflonyddu
- 8. Seiberfwlio
- 9. Penderfynu P'un a yw Ymddygiad Annerbyniol yn Digwydd
- 10. Galluogrwydd, ymddygiad a rheoli cadarnhaol
- 11. Dysgu a Datblygu
- 12. Datrys Pryderon Ynghylch Ymddygiad Annerbyniol
- 13. Camau Ffurfiol
- 14. Aflonyddu Trydydd Parti
- 15. Cwynion Maleisus
- 16. Sicrhau Cyfle Cyfartal
- Atodiad 1 - Diffiniadau
- Atodiad 2 - Rheoli Perfformiad
- Atodiad 3 - Ffyrdd Anffurfiol o Ddatrys Gwrthdaro
- Atodiad 4 - Rheoli Gwrthdaro
- Atodiad 5 - Cysylltiadau Allweddol o Ran Safonau Ymddygiad
15. Cwynion Maleisus
Ar adegau, gellir ystyried bod y pryderon a wneir yn faleisus neu wedi eu chwyddo ormod o lawer, yn ddi-sail a/neu'n ymgais pur i ddifrïo cydweithiwr mewn rhyw ffordd. Bydd angen i'ch rheolwr sy'n ymdrin â'r pryderon ystyried y camau gweithredu priodol yn dilyn cael cyngor oddi wrth Bartner Busnes Adnoddau Dynol. Gellir defnyddio'r Gweithdrefnau Disgyblu yn y sefyllfa hon, fodd bynnag:
ni fydd gweithwyr yn destun camau disgyblu nac unrhyw niwed arall dim ond oherwydd nad yw eu cwyn yn cael ei chadarnhau, a
bydd gweithwyr dim ond yn wynebu camau disgyblu os canfyddir bod yr honiad yn ffug a heb ei wneud yn ddidwyll (hynny yw, heb gredu'n onest mai dyna yw'r gwir).
