Canllawiau Safonau Ymddygiad - Hydref 2024
Yn yr adran hon
- 1. Cyflwyniad
- 2. Cwmpas
- 3. Cyfrinachedd
- 4. Rolau a Chyfrifoldebau
- 5. Ymddygiad Derbyniol
- 6. Ymddygiad Annerbyniol
- 7. Diffinio Gwahaniaethu (Uniongyrchol neu Anuniongyrchol), Fictimeiddio, Bwlio, Aflonyddu Rhywiol ac Aflonyddu
- 8. Seiberfwlio
- 9. Penderfynu P'un a yw Ymddygiad Annerbyniol yn Digwydd
- 10. Galluogrwydd, ymddygiad a rheoli cadarnhaol
- 11. Dysgu a Datblygu
- 12. Datrys Pryderon Ynghylch Ymddygiad Annerbyniol
- 13. Camau Ffurfiol
- 14. Aflonyddu Trydydd Parti
- 15. Cwynion Maleisus
- 16. Sicrhau Cyfle Cyfartal
- Atodiad 1 - Diffiniadau
- Atodiad 2 - Rheoli Perfformiad
- Atodiad 3 - Ffyrdd Anffurfiol o Ddatrys Gwrthdaro
- Atodiad 4 - Rheoli Gwrthdaro
- Atodiad 5 - Cysylltiadau Allweddol o Ran Safonau Ymddygiad
8. Seiberfwlio
Mae'r enghreifftiau o seiberfwlio neu aflonyddu gan ddefnyddio dulliau electronig yn cynnwys:
Neges e-bost dramgwyddus - anfon negeseuon e-bost tramgwyddus at gydweithiwr neu drydydd parti arall hyd yn oed os yw i fod yn jôc, lle gallai person gael ei dramgwyddo gan gynnwys y neges neu unrhyw atodiadau.
Bygythiadau trwy e-bost - yn ogystal â bygythiad uniongyrchol gallai hyn hefyd gynnwys negeseuon cymharol ddiniwed o ran eu cynnwys ond gall yr ystyr a awgrymir y tu ôl i'r neges fod yn ffurf ar fwlio.
Negeseuon e-bost ymfflamychol - anfon negeseuon e-bost ymosodol a/neu sarhaus at unigolion neu grwpiau o unigolion.
Postio sylwadau ar flogiau a safleoedd rhwydweithio cymdeithasol Nid ydym yn caniatáu mynediad i gyfryngau cymdeithasol yn ystod oriau gwaith neu drwy ein rhwydwaith ar unrhyw adeg heblaw am resymau busnes dilys a lle cafwyd y caniatâd perthnasol. Mewn perthynas â defnyddio cyfryngau cymdeithasol, mae angen i chi fod yn ystyriol o'r ffaith nad defnydd busnes yn unig a all gael effaith yn y gweithle ond hefyd defnydd personol o gyfryngau cymdeithasol y tu allan i'r gweithle. Cyfeiriwch at ein Polisi Cyfryngau cymdeithasol.
Copïo unigolion yn fwriadol mewn negeseuon e-bost nad oes angen iddynt wybod am y cynnwys, lle bernir bod hyn yn amhriodol ac sydd â'r bwriad o fychanu neu danseilio unigolyn.
