AVC Wise

Diweddarwyd y dudalen: 05/01/2024

Cefnogi eich dyfodol ariannol drwy Rannu Cost Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol

Yma yng Nghyngor Sir Caerfyrddin, gall aelodau'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) gael mynediad i'n mantais Rhannu Cost Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (AVC) i weithwyr.

Mae ein cynllun Rhannu Cost AVC yn cynnig ffordd gost-effeithlon i chi o fuddsoddi yn eich dyfodol ariannol. Mae'n eich galluogi i ychwanegu at eich cronfa bensiwn fel y gallwch edrych ymlaen at ymddeoliad hapus, sy'n iach yn ariannol.*

Byddwch yn arbed arian o ran Treth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol ar yr arian a delir i'ch pot, gan wneud hon yn ffordd ddefnyddiol dros ben o gynilo ar gyfer eich ymddeoliad, sy'n golygu y gallech ymddeol yn gynnar neu gyda mwy o arian o bosibl.

Gallech hyd yn oed dynnu'ch cynllun Rhannu Cost AVC allan yn 100% ddi-dreth ar ôl ymddeol!

I ddysgu mwy am Rannu Cost Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol, cofrestrwch ar ein platfform Rhannu Cost AVC yma.

Bydd ystod eang o adnoddau ar gael i'ch helpu i ddysgu mwy. Cliciwch ar opsiwn isod i ddysgu am eich mantais gweithiwr ac i wella eich llesiant ariannol heddiw:

I gysylltu ag AVC Wise yn uniongyrchol, anfonwch e-bost at support@avcwise.co.uk, ffoniwch 01252 959 779 neu ewch i www.avcwise.co.uk i ddefnyddio'r gwasanaeth sgwrs fyw.

*Buddsoddiad tymor hir yw pensiwn a gall gwerth y gronfa amrywio a gostwng. Gall eich incwm yn y pen draw ddibynnu ar faint y gronfa ar ôl ymddeol, y gyfradd llog yn y dyfodol a deddfwriaeth trethi.

†Gallwch gymryd y cyfan neu ran o'ch cynllun Rhannu Cost AVC fel cyfandaliad di-dreth, cyhyd â'ch bod yn ei gymryd ar yr un pryd â buddion eich prif gynllun, ac nad yw'n fwy na 25% o werth cyfun eich cynllun a buddion eich prif gynllun.