Microsoft Teams
Diweddarwyd y dudalen: 13/02/2024
Mae Microsoft Teams yn ap cydweithredol sy'n hwyluso gwaith tîm. Mae'n helpu i gadw timau'n drefnus, i gyfathrebu'n gyflym ac yn effeithiol, a rhannu data yn hawdd.
Gall defnyddio Teams eich galluogi i wneud y canlynol:
- Cyfathrebu mewn niferoedd mawr yn gyflym ac yn glir.
- Rhannu ffeiliau yn hawdd.
- Gweithio ar ffeiliau a'u golygu ar yr un pryd.
- Lleihau llif e-bost mewnol yn sylweddol.
- Cynnal cyfarfodydd fideo.
- Cynnal sgyrsiau un i un neu grŵp.
- Cyfathrebu a chydweithio'n effeithiol â chysylltiadau allanol.
Gwyliwch fideo rhagarweiniol Microsoft ‘Croeso i Teams’.
Mae Microsoft Teams wedi'i lawrlwytho ar bob gliniadur a chyfrifiadur CSC. Y ffordd hawsaf o ddod o hyd iddo yw teipio ‘Teams’ yn y blwch chwilio yng nghornel chwith isaf eich sgrin Windows 10, ac yna cliciwch ar ‘Microsoft Teams’ pan fydd yn ymddangos yn y rhestr uwchben y blwch chwilio.
Bydd Microsoft Teams eisoes wedi'i lawrlwytho ar holl ffonau clyfar a llechi CSC. Cliciwch ar yr ap ‘Teams’ ar hafan eich dyfais, yna mewngofnodwch i'r ap gyda’ch cyfeiriad e-bost a'ch cyfrinair CSC.
Gallwch. Fodd bynnag, bydd angen i chi ddilyn y broses Dewch â’ch Dyfais eich hun (BYOD) yn gyntaf. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am Dewch â’ch Dyfais eich hun .
I gynnal cyfarfodydd/galwadau fideo gyda defnyddwyr allanol, cliciwch yma i lawrlwytho ein canllaw PowerPoint ‘Teams a Chysylltiadau Allanol’.
Mae'r Tîm Dysgu a Datblygu yn darparu hyfforddiant Cyflwyniad i Microsoft Teams sydd ar gael i holl weithwyr Cyngor Sir Caerfyrddin. Gwnewch gais trwy'r ffurflen gais ar-lein.
Rydym wedi darparu canllawiau o ran Teams yn yr adran hon o’r Fewnrwyd, ond, defnyddiwch yr adran ‘Help’ (cliciwch ar yr eicon ‘Help’ yng nghornel chwith isaf yr ap Teams) i gael cymorth a chanllawiau manwl a helaeth. Yn adran ‘Help’ Teams, mae dwsinau o ganllawiau a fideos, a fydd yn esbonio sut i wneud unrhyw beth sydd angen i chi ei wneud. Mae'n hawdd iawn dod o hyd i'r holl adnoddau gan ddefnyddio'r cyfleuster chwilio.