Democratiaeth
Diweddarwyd y dudalen: 02/05/2023
Yn y rhan hon o'r fewnrwyd ceir gwybodaeth i'r Cynghorwyr a'r Swyddogion am y broses ddemocrataidd.
A ydych am gyflwyno rhybudd o gynnig? (I'w ddefnyddio gan aelodau etholedig yn unig)
Cyn cyflwyno Rhybudd o Gynnig neu cwestiwn i’r Cyngor/Cabinet - a ydych chi wedi ystyried a oes gennych ddiddordeb i'w ddatgan? Os oes angen cyngor cyfreithiol arnoch, cysylltwch â Steve Murphy, Swyddog Monitro neu Robert Edgecombe, Dirprwy Swyddog Monitro.
Rhaid cyflwyno Rhybudd o Gynnig i'r Prif Weithredwr erbyn 10.00 y.b. 7 diwrnod gwaith clir fan bellaf (DS: Nid yw diwrnod clir yn cynnys y diwrnod derbynnwyd y cynnig na diwrnod y cyfarfod) cyn y cyfarfod o'r Cyngor lle rhoddir ystyried iddo.
Rhaid cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig o bob cynnig i’r Prif Weithredwr naill ai ar ffurf copi caled (i’w lofnodi gan o leiaf ddau aelod) neu drwy e-bost (mae’n ofynnol i bob llofnodwr gael copi ohono) heb fod yn hwyrach na 10 a.m. 7 diwrnod gwaith clir (h.y. nid yw diwrnodau clir yn cynnwys y diwrnod y derbynnir y cynnig na diwrnod y cyfarfod) cyn cyfarfod y Cyngor y mae i’w ystyried ynddo.
Cyfeiriwch bob Rhybudd o Gynnig i Swyddfa'r Prif Weithredwr trwy'r cyfeiriad e-bost canlynol: prifweithredwr@sirgar.gov.uk, neu'n ysgrifenedig.
Agendâu a Chofnodion
Cyrchwch agendâu a chofnodion yr holl bwyllgorau. Helpwch ni i fod yn Gyngor di-bapur. Cofiwch fod modd ichi weld ac anodi dogfennau pwyllgorau ar eich iPad drwy ap modern.gov.
Dyddiadur y Cyngor
Pa gyfarfodydd a gynhelir, ym mhle a phryd. Chwiliwch fesul mis am restr lawn o'r holl gyfarfodydd cyhoeddus a phreifat.
Gwe-ddarlledu
Gallwch wylio gwe-ddarllediadau cyfarfodydd byw ac wedi'u harchifo ar y pryd ac am hyd at 6 mis ar ôl hynny.
Cynlluniau gwaith i'r dyfodol
Manylion am y blaengynlluniau a gyhoeddir gan y Cabinet a’r Pwyllgorau, sy’n rhestru’r penderfyniadau allweddol/adroddiadau sydd i’w trafod..