Arweinyddiaeth a Datblygiad

Diweddarwyd y dudalen: 27/09/2021

Fel rhan o Academi Wales, mae Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru unwaith eto yn gweithio mewn partneriaeth â'r Gymdeithas Llywodraeth Leol i gyflwyno'r Rhaglen Arweinyddiaeth ar gyfer Aelodau Etholedig.

Mae'r Rhaglen Arweinyddiaeth yn cael ei chydnabod gan yr ILM (Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth), sef prif gorff dyfarnu'r DU ar gyfer arweinyddiaeth a rheolaeth, a bydd graddedigion yr Academi Arweinyddiaeth yn derbyn tystysgrif achrededig.

Mae'r Rhaglen Arweinyddiaeth yn rhywle y gall arweinwyr, a'r rheiny mewn rolau arwain, roi sylw i'r ffyrdd diweddaraf o feddwl ym maes arweinyddiaeth wleidyddol, a sicrhau bod ganddynt y wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i wynebu'r heriau hyn.

Cryfder y Rhaglen Arweinyddiaeth yn rhannol yw ei bod yn darparu amgylchedd lle gall aelodau etholedig o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol gwrdd ag aelodau blaenllaw o gynghorau a phleidiau eraill a siarad am faterion sy'n gyffredin ganddynt.

Mae'r cyfuniad hwn o ddysgu gan arbenigwyr ym maes arweinyddiaeth a chan brofiad eu cyfoedion yn rhoi hyder i raddedigion yn eu galluoedd a rhwydwaith newydd o gydweithwyr dibynadwy.

Cliciwch ar y ddolen gyswllt isod i gael rhagor o wybodaeth:

Rhaglen Arwain i Gynghorwyr