Rôl a Chyfrifoldebau Cynghorydd

Diweddarwyd y dudalen: 27/09/2021

Mae cyfres o ddisgrifiadau rôl cyffredinol a manylebau person wedi cael eu datblygu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r awdurdodau ar gyfer cynghorwyr. Maent yn berthnasol mewn unrhyw awdurdod ac awgrymiadau ydynt nid gorchmynion.

Mae'r disgrifiadau rôl yn nodi cyfrifoldebau a swyddogaethau rôl yr aelod etholedig. Mae'r manylebau person yn disgrifio'r rhinweddau a'r sgiliau sy'n ofynnol gan yr aelod yn y rôl a gallant helpu wrth ystyried datblygiad personol.