Sgiliau Cadeirio

Diweddarwyd y dudalen: 27/09/2021

Rhan hanfodol o'ch rôl fel Cynghorydd yw cadeirio gwahanol fathau o gyfarfodydd, o gyfarfodydd cyhoeddus a byrddau partneriaeth i bwyllgorau Cyngor anffurfiol. Bydd y modiwl eDdysgu hwn yn eich helpu i ddysgu rhai o'r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen ar gyfer y dasg, yn ogystal â rhoi llawer o awgrymiadau defnyddiol iawn i'ch helpu drwy adegau trafferthus posibl.

Gan ddefnyddio astudiaethau achos a osodwyd yng nghyngor Tref Rhithwir, bydd y modiwl hwn yn eich tywys drwy'r broses gam wrth gam, o'r gwaith paratoi y bydd angen i chi ei wneud, i gynnal y cyfarfod ac yna pleidleisio a dod â'r cyfarfod i ben.

Cadeirio Cyfarfodydd (Datblygu Cynghorwyr) - eDdysgu