Sgiliau'r cyfryngau

Diweddarwyd y dudalen: 27/09/2021

Cyfryngau Cymdeithasol a Chamdriniaeth Ar-lein

Bellach mae'r cyfryngau cymdeithasol yn arf pwerus i gynghorwyr ac yn eu helpu i ymgysylltu â chymunedau, codi ymwybyddiaeth o faterion cymunedol, digwyddiadau, neu fentrau'r Cyngor, a cheisio barn a chael adborth. Fodd bynnag mae ochr dywyll yn perthyn i'r cyfryngau cymdeithasol; mae camdriniaeth a bwlio ar-lein neu 'trolio' yn waeth nag y bu erioed, ac mae gwleidyddion, yn enwedig menywod, yn aml yn cael eu targedu o ran camdriniaeth annerbyniol, annymunol, ac, weithiau, bygythiol ar-lein. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi llunio'r canllawiau isod i aelodau i'w helpu i oresgyn y rhwystrau ac i aros yn ddiogel ar-lein: