Sut y mae'r Cyngor yn Gweithio

Diweddarwyd y dudalen: 29/09/2021

Bwriad Llawlyfr y Cynghorwyr yw rhoi gwybodaeth a chymorth i bob Cynghorydd, yn enwedig y rhai ohonoch sydd newydd gael eich ethol, sy'n debygol o'ch helpu i:

  • Gyflawni eich dyletswyddau fel Cynghorydd
  • Canfod eich ffordd o amgylch gwahanol swyddfeydd y Cyngor ar gyfer cyfarfodydd ac ati; a
  • Darparu gwybodaeth bwysig drwy gyflwyniad cyffredinol i waith y Cyngor Sir.

Mae'r Llawlyfr yn canolbwyntio ar agweddau allweddol ar waith y Cyngor ond ni all, wrth gwrs, ateb yr holl gwestiynau na darparu'r holl wybodaeth y bydd ei hangen ar Gynghorwyr. Caiff ei ategu gan raglen sefydlu a datblygu aelodau gynhwysfawr gan gynnwys cymorth gyda Thechnoleg Gwybodaeth (TG). Bydd swyddogion o holl adrannau'r Cyngor yn rhan o'r rhaglen, a fydd yn digwydd ar ffurf cyflwyniadau, grwpiau ffocws, seminarau, chwarae rôl a chyfryngau dysgu eraill.