Y Côd Ymddygiad i Aelodau
Diweddarwyd y dudalen: 14/08/2024
Ydych chi’n:
- Gwneud gwaith eich awdurdod?
- Gweithredu, yn honni eich bod yn gweithredu, neu’n rhoi’r argraff eich bod yn gweithredu’n swyddogol fel aelod sy’n cynrychioli eich awdurdod?
- Gweithredu fel penodai neu enwebai eich awdurdod ar unrhyw gorff arall sydd heb ei gôd ymddygiad ei hun?
Os Ydych – rhowch sylw i gam 2 dros y dudalen.
A. Ydy’r gwaith yn ymwneud â’r canlynol neu’n debygol o effeithio arnynt:
- eich swydd neu eich busnes?
- eich cyflogwr neu eich cwmni?
- unrhyw un sydd wedi cyfrannu at gostau eich ethol neu eich treuliau fel cynghorydd?
- unrhyw gwmni y mae gan eich cyfranddaliadau ynddo werth symbolaidd o fwy na £25000 neu lle rydych yn dal mwy nag 1% o gyfanswm y cyfalaf cyfranddaliadau, sydd ag adeiladau neu dir yn ardal eich awdurdod?
- unrhyw gontract a greir rhwng eich awdurdod a’ch cwmni neu gwmni y mae gennych gyfranddaliadau ynddo? (fel y disgrifiwyd yn 4)
- unrhyw dir y mae gennych fuddiant ynddo?
- unrhyw dir y mae eich awdurdod yn ei osod i’ch cwmni? (fel y disgrifiwyd yn 4)
- unrhyw gorff yr ydych wedi cael eich ethol neu eich penodi iddo gan eich awdurdod?
- unrhyw
- awdurdod cyhoeddus neu gorff sy’n ymarfer swyddogaethau cyhoeddus eu natur?
- gwmni, cymdeithas ddiwydiannol a darbodus, elusen neu gorff sydd at ddibenion elusennol?
- gorff sydd â’r brif swyddogaeth o ddylanwadu ar farn y cyhoedd neu bolisi?
- undeb llafur neu gymdeithas broffesiynol?
- glwb neu gymdeithas sy’n gweithredu yn ardal eich awdurdod yr ydych yn aelod ohono/ohoni neu’n cyflawni swydd reoli gyffredinol ynddo/ynddi?
neu
- unrhyw dir yn ardal eich awdurdod y mae gennych drwydded i’w feddiannu am o leiaf 28 diwrnod?
B. A ellid barnu’n rhesymol bod penderfyniad yn effeithio (i raddau helaethach nag ar bobl eraill yn eich ward/yn ardal eich awdurdod):
- ar eich llesiant neu eich sefyllfa ariannol chi?
- ar lesiant neu sefyllfa ariannol unrhyw un sy’n byw gyda chi neu y mae gennych gysylltiad personol agos â nhw?
- ar gyflogaeth/fusnes, cyflogwr neu gwmni unrhyw un sy’n byw gyda chi neu y mae gennych gysylltiad personol agos â nhw?
- ar unrhyw gwmni y mae gan unrhyw un sy’n byw gyda chi neu y mae gennych gysylltiad personol agos â nhw gyfranddaliadau ynddo?
Os yw A ne B yn wir, mae gennych Fuddiant Personol Rhaid i chi:
- ddatgan eich buddiant a natur y buddiant hwnnw:
- mewn cyfarfodydd
- wrth gyflwyno sylwadau ysgrifenedig
- wrth gyflwyno sylwadau llafar (a’i gadarnhau yn ysgrifenedig o fewn 14 diwrnod)
- ystyried a oes gennych fuddiant rhagfarnol (gweler CAM 3 gyferbyn)
Cwestiynau i’w gofyn i chi’ch hunan.
Fyddai aelod o’r cyhoedd, sy’n gwybod y ffeithiau perthnasol, yn meddwl yn rhesymol bod eich buddiant personol yn ddigon arwyddocaol i fod yn debygol o achosi rhagfarn wrth i chi farnu ynghylch buddiant y cyhoedd?
Os yw hyn yn wir – mae gennych fuddiant rhagfarnol, oni bai bod un o’r eithriadau canlynol yn berthnasol.
Ydy’r gwaith yn ymwneud ag un o’r canlynol:
- awdurdod perthnasol arall yr ydych yn aelod ohono’n ogystal?
- awdurdod cyhoeddus arall neu gorff sy’n ymarfer swyddogaethau cyhoeddus eu natur y mae gennych swydd reoli gyffredinol ynddo?
- corff yr ydych wedi cael eich ethol, eich penodi neu eich enwebu iddo gan eich awdurdod?
- eich rôl fel llywodraethwr ysgol nad ydych wedi cael eich penodi na’ch enwebu iddi gan eich awdurdod (e.e.rhiant-lywodraethwr), oni bai bod y gwaith yn ymwneud yn benodol â’ch ysgol chi?
- eich rôl fel aelod o fwrdd iechyd nad ydych wedi cael eich penodi iddi gan eich awdurdod?
- tai, os oes gennych denantiaeth neu brydles gan yr awdurdod, cyhyd ag nad yw’r mater yn ymwneud â’ch tenantiaeth neu eich prydles arbennig chi ac nad oes gennych ôl-ddyledion rhent gwerth mwy na 2 fis?
- prydau ysgol neu gludiant i’r ysgol a chostau teithio, os ydych yn rhiant, yn warcheidwad, yn fam-gu neu’n dad-cu, neu â chyfrifoldeb rhiant am blentyn sydd mewn addysg amser llawn, oni bai ei fod yn ymwneud yn benodol â’r ysgol y mae eich plentyn yn mynd iddi?
- penderfyniadau ynghylch tâl salwch statudol os ydych yn ei dderbyn neu os oes gennych hawl i’w dderbyn gan eich awdurdod?
- lwfans neu daliad i aelodau (yn ddibynnol ar rai amodau)?
- A yw Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn ystyried penderfyniad a wnaed neu gam a gymerwyd gan fwrdd gweithredol eich awdurdod neu bwyllgor arall, ac roeddech chi’n aelod o’r corff a wnaeth y penderfyniad hwnnw a’r corff presennol?
- Eich rôl fel Cynghorydd Tref neu Gymuned mewn perthynas â chymorth ariannol i grŵp cymunedol neu wirfoddol hyd at £500 o ran gwerth.
Os bydd un o’r eithriadau’n berthnasol
Ni fernir bod gennych fuddiant rhagfarnol. Rhaid i chi ddatgelu eich buddiant personol, ond mae hawl gennych i fod yn rhan o’r eitem sy’n cael ei thrafod.
Os na fydd yr un o’r eithriadau’n berthnasol, gweler CAM 4.
Mae gennych fuddiant rhagfarnol. Rhaid i chi:
- ddatgan eich buddiant personol
- gadael yr ystafell neu unrhyw leoliad arall lle mae’r cyfarfod yn cael ei gynnal
- peidio â chymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniad na dylanwadu arni
ONI BAI
- eich bod wedi cael gollyngiad gan eich pwyllgor safonau i gymryd rhan a/neu bleidleisio
- bod aelodau o’r cyhoedd yn cael cyflwyno sylwadau, ateb cwestiynau neu roi tystiolaeth
- eich bod wedi cael eich galw i fynychu cyfarfod o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.
Fodd bynnag, os rhoddwyd gollyngiad i chi siarad yn unig, rhaid i chi adael yr ystafell unwaith y byddwch wedi siarad, ac ni chewch fod yn rhan o unrhyw drafodaeth bellach na phleidleisio.
Rhaid i'r holl gynghorwyr ac aelodau cyfetholedig gydymffurfio â Chod Ymddygiad yr Aelodau a fabwysiadwyd gan y Cyngor yn unol â gofynion Llywodraeth Cymru. Er mwyn deall eu rhwymedigaethau efallai y byddai'n ddefnyddiol i'r Cynghorwyr ac aelodau cyfetholedig edrych ar Goflyfrau'r Côd Ymddygiad sy'n cael eu cyhoeddi bob chwarter gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Mwy ynghylch Democratiaeth