Archwilio eich dull o arwain

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Beth yw effaith arweinydd sy'n gallu cysylltu?

Ydych chi erioed wedi clywed y dywediad “mae gweithwyr yn gadael rheolwyr, nid cwmnïau”?

Mae eich perthynas â'ch staff yn hanfodol i staff deimlo'n gysylltiedig ac yn frwdfrydig.

Ydych chi eisiau deall tebygrwydd a gwahaniaethau unigol rhyngoch chi a'ch tîm?

Byddwch y cyntaf i ddilyn y cwrs newydd hwn i archwilio eich dull o arwain!

Beth yw'r amcanion?

Bydd y sesiwn hwn yn eich helpu i wneud y canlynol:

  • Deall y diffiniad o arweinyddiaeth
  • Deall eich dewisiadau eich hun gan ddefnyddio Fframwaith Dangosyddion Math Myers Briggs
  • Archwilio eich dull eich hun o arwain
  • Ystyried beth mae gwahanol aelodau o'r tîm ei angen gennych chi fel arweinydd
  • Pam mae'n bwysig cysylltu â'r bobl rydych chi'n eu harwain
  • Deall yr effaith wrth ymddwyn yn wahanol i'r arfer
  • Sut y gallwch ddatblygu eich sgiliau arwain

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Deall tebygrwydd a gwahaniaethau unigol rhyngoch chi a'ch tîm

Dull darparu:

Ystafell Ddosbarth

Hyd y cwrs:

3 awr

Cost:

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.