Arwain a Rheoli Newid

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Pob rheolwr sy'n rhagweld y bydd angen iddo/iddi arwain a/neu reoli newid cadarnhaol yn y gweithle.

Beth yw'r amcanion?

Bydd y diwrnodau dysgu yn cyflwyno cymysgedd o theori ac ymarfer a fydd yn edrych ar y camau yn y broses newid.

Lefel Unigol

  • Deall rôl tuedd a chanfyddiad o ran rheoli newid.
  • Defnyddio ymwybyddiaeth emosiynol a gwytnwch er mwyn helpu i ddeall y broses newid.

Lefel Tîm

  • Archwilio ymateb unigol ac mewn grŵp i newid
  • Edrych ar ddulliau arweinyddiaeth a rheolaeth sy'n hwyluso newid cadarnhaol gan gynnwys effaith pŵer a pherthnasoedd.

Lefel Drefniadaethol

  • Defnyddio dulliau gwelliant parhaus ac offer ymarferol i gefnogi'r broses newid.
  • Defnyddio data i roi gwybod am y broses newid.

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Mae'r cwrs hwn yn rhan o Fframwaith Arweinyddiaeth y Cyngor.

Mae Arwain a Rheoli Newid yn rhoi cyfle ichi ystyried sut i ymgysylltu â phobl, deall a chydweithio er mwyn hyrwyddo newid effeithiol.

Hyd y cwrs:

2 ddiwrnod

Cost:

Ddim yn berthnasol

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.