Arwain Pobl Drwy Newid: Dull Seicoleg

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

  • Unrhyw un sy'n ymwneud â chefnogi staff drwy newid
  • Unrhyw un sydd â diddordeb mewn seicoleg rheoli newid

Beth yw'r amcanion?

Dull seicoleg o ddeall ymateb pobl i newid a sut i'w harwain yn effeithiol drwyddo.

Erbyn diwedd y sesiwn dylech fod yn gallu gwneud y canlynol:

  • Deall gwahanol fathau o newid
  • Deall ymatebion seicolegol pobl i newid (gwybyddol, cymdeithasol, cyfathrebu)
  • Nodi camau ymarferol i arwain pobl drwy newid yn effeithiol

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Mae’r cwrs hwn yn ein helpu i ddeall newid fel mwy na phroses yn unig.

Trwy ddeall seicoleg sut a pham mae pobl yn ymateb i newid, gallwn gefnogi ac arwain staff yn well trwy newid.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

2 Awr

Cost:

Dim Cost

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.