Cyfarfodydd ar-lein Llwyddiannus

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Mae'r sesiwn hon ar gyfer unrhyw un sy'n gyfrifol am gynnal cyfarfodydd ar-lein, o gyfarfodydd tîm i roi gwybodaeth a chyfarfodydd un-i-un i gyfarfodydd mwy ffurfiol â phartneriaid.

Beth yw'r amcanion?

Erbyn diwedd y sesiwn byddwch wedi cael y cyfle i wneud y canlynol:

  • Edrych yn ôl ar yr hyn sydd wedi gweithio'n dda yn eich cyfarfodydd ar-lein a pha heriau yr ydych wedi'u hwynebu
  • Edrych ar y Canllawiau Arfer Da ac Ymddygiad mewn Cyfarfodydd
  • Ystyried effaith cyfarfodydd ar-lein ar wahanol bobl
  • Ystyried unrhyw ddatblygiad ychwanegol a fyddai o gymorth i chi.

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Mae llawer ohonom wedi gorfod ymateb i'r her o gynnal cyfarfodydd ar-lein.  Mae'r sesiwn hon wedi'i chynllunio i'ch helpu i gynnal eich cyfarfodydd yn hyderus.  Bydd yn rhoi cyfle i chi edrych yn ôl ar eich cyfarfodydd (yr hyn sydd wedi llwyddo a'r hyn sydd wedi methu), adolygu arferion da a dysgu gydag eraill drwy drafodaeth.  

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

1.5 awr

Cost:

Dim tâl

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.