ILM lefel 3: Tystysgrif mewn Egwyddorion Arweinyddiaeth a Rheolaeth
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Os ydych yn is-reolwr neu'n dyheu am fod yn un, bydd y cwrs hwn yn eich helpu i ddatblygu a deall eich rôl a'ch helpu i gymhwyso egwyddorion a dulliau o fewn eich rôl a datblygu fel arweinydd.
Beth yw'r amcanion?
Mae'r cwrs yn rhoi egwyddorion sylfaenol rheolaeth i chi ac mae'n sylfaen dda i unigolion sy'n dymuno symud ymlaen ymhellach yn eu gyrfa.
Mae unedau dysgu yn cynnwys:
- Deall arweinyddiaeth
- Datrys problemau a gwneud penderfyniadau
- Deall sut i ysgogi i wella perfformiad
- Deall rôl rheolwyr er mwyn gwella perfformiad rheolwyr
- Rheoli risg yn y gweithle
- Cynllunio newid yn y gweithle
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Bydd yn rhoi egwyddorion sylfaenol rheolaeth i chi ac mae'n sylfaen dda i unigolion sydd am symud ymlaen yn eu gyrfa.
- Byddwch yn cael sylfaen gadarn i drefnu, rheoli ac ysgogi eich timau
- Ennill hyder yn eich gallu i berfformio yn eich rôl
- Dysgu am offer a thechnegau i ddatblygu eich hun fel arweinydd
- Ennill cymhwyster cenedlaethol i gydnabod eich galluoedd a'ch profiad
Mae gan fyfyrwyr fynediad at ddeunyddiau dysgu trwy lyfrgell ategol Google Classrooms a llyfrgell ddigidol y coleg. Yn ogystal, maent wedi dyrannu cymorth tiwtor a thiwtorialau penodedig un i un i gynorthwyo myfyrwyr cyn iddynt gyflwyno gwaith yn ddigidol ar-lein.
Dull darparu:
Dull cyfunol
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn Academaidd
Cost:
Dim
Sut i gwneud cais:
Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.
Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.
Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.