ILM lefel 5: Diploma mewn Egwyddorion Arweinyddiaeth a Rheolaeth
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Mae'r cwrs hwn wedi'i anelu at reolwyr canol newydd a darpar reolwyr canol ac yn ddelfrydol ar gyfer datblygu sgiliau a phrofiad i baratoi ar gyfer cyfrifoldebau rheoli uwch.
Beth yw'r amcanion?
Byddwch yn dysgu defnyddio technegau rheoli craidd i ysgogi canlyniadau gwell a datblygu eich gallu i arwain, gan ddarparu arweinyddiaeth strategol yn ogystal â rheolaeth o ddydd i ddydd.
Mae unedau dysgu yn cynnwys:
- Deall rôl rheolwyr er mwyn gwella perfformiad rheolwyr
- Rheoli eich datblygiad proffesiynol parhaus eich hun
- Dod yn arweinydd effeithiol
- Datblygu sgiliau meddwl yn feirniadol
- Cyflwyno achos ariannol
- Rheoli gwelliant
- Arwain arloesedd a newid
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Fel dysgwr, byddwch yn cael sylfaen drylwyr yn eich rôl a'ch cyfrifoldebau ac yn achub ar y cyfle i atgyfnerthu a datblygu ymhellach y sgiliau allweddol sydd eu hangen arnoch ar y lefel hon.
Byddwch yn cyflawni'r canlynol:
- Ennill y wybodaeth i gefnogi eich rôl rheolaeth ganol
- Cymryd rheolaeth o'ch datblygiad personol
- Deall newid yn y gweithle
- Meithrin perthynas gadarnhaol a chynhyrchiol yn y gwaith
- Ennill cymhwyster cydnabyddedig cenedlaethol
Dull darparu:
Dull cyfunol
Hyd y cwrs:
2 Flynedd Academaidd
Cost:
Dim
Sut i gwneud cais:
Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.
Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.
Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.