Hanfodion Cynhwysiant

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Yr holl staff

Beth yw'r amcanion?

Mae sefydliad cynhwysol yn un sy'n gallu ysgogi amrywiaeth o sgiliau, profiad a safbwyntiau mewn ffordd sy'n galluogi pawb i roi eu gorau ac yn sicrhau mantais gystadleuol. Gan gyfuno drama sy'n ysgogi'r meddwl gyda mewnwelediad gan arbenigwyr cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant blaenllaw, mae Hanfodion Cynhwysiant yn edrych ar sut i nodi ac ymateb i wahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth yn y gweithle ac yn cynnig arweiniad ar greu amgylchedd gwaith cynhwysol a darparu gwasanaeth cynhwysol.

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Mae hwn yn gwrs a ddarperir gan gwmni allanol ac ar gael yn Saesneg yn unig. Mae’n hygyrch i staff sy’n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin yn unig.

Dull darparu:

eDdysgu

Hyd y cwrs:

1 awr

Cost:

Dim tâl

Mewngofnodi i e-Ddysgu