Ymgysylltu ag Amrywiaeth

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Yr holl staff. Mae staff newydd yn cael eu cofrestru'n awtomatig drwy Ddysgu a Datblygu. Yna bydd e-bost o gadarnhad yn cael ei anfon, gyda'r wybodaeth am yr enw defnyddiwr a'r cyfrinair a sut i gael mynediad i'r safle. Modiwl e-ddysgu yw hwn.

Datblygwyd modiwlau cynyddu ymwybyddiaeth ynghylch y Prosiect Arddel Amrywiaeth er mwyn eu cynnal dros y Rhyngrwyd. Mae'r hyfforddiant wedi bod ar gael i'r Awdurdod ers 2005. Ond er mwyn ymateb i Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae modiwl newydd wedi cael ei ddatblygu er mwyn tynnu sylw at gyfrifoldebau newydd yr Awdurdod i hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth o fewn y sefydliad ac yn ein cymunedau.

Beth yw'r amcanion?

Mae'r modiwl Arddel Amrywiaeth yn amlinellu'r canlynol: https://carmarthen.thelearningbusiness.com/

  • Yr ystod o nodweddion gwarchodedig
  • Newidiadau i ddiffiniadau a chwmpas bob math o wahaniaethu, aflonyddu a fictimeiddio a chyflwyniad i'r diffiniadau newydd
  • Y pwyslais ar ganlyniadau ymarferol a chyflawni'r gwasanaeth, yn hytrach nag ar brosesau a chynlluniau
  • Ymestyn yr holl nodweddion gwarchodedig i gynnwys darparu nwyddau a gwasanaethau
  • Y ddyletswydd cydraddoldeb sengl newydd yng Nghymru, y dyletswyddau Cyffredinol yn ogystal â dyletswyddau Penodol
  • Cwmpas cymryd camau cadarnhaol o ran recriwtio
  • Rôl y broses gaffael yn y sector cyhoeddus wrth hybu cydraddoldeb, amrywiaeth a hawliau dynol ac effaith hyn ar gwmnïau sy'n cynnig am gontractau
  • Pwysigrwydd hawliau dynol.

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd yr unigolyn yn ymwybodol o'r goblygiadau cyfreithiol a moesol sy'n ymwneud â nhw fel unigolyn a'r sefydliad, ac yn gweithredu mewn modd sy'n bodloni'r goblygiadau hyn.

 

 Arddel Amrywiaeth

 

Hyd y cwrs:

Mae hwn yn gyfle i weithio'n hyblyg; gall dysgwyr gwblhau'r modiwlau ar eu cyflymder eu hun. Bydd cwblhau'r modiwlau yn cymryd tua 1½ awr.

Cost:

Dim tâl

Mewngofnodi i e-Ddysgu