Ymwybyddiaeth o unigolion traws ac anneuaidd

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Yr holl staff

Beth yw'r amcanion?

Mae llawer o bobl draws a phobl anneuaidd yn wynebu ymddygiad amhriodol a diffyg dealltwriaeth a pharch, yn y gweithle a'r tu allan iddo. Gan ddefnyddio cymysgedd o ddrama, straeon bywyd go iawn a mewnwelediad arbenigol, mae'r cwrs hwn yn rhoi golwg unigryw ar sut beth yw bod yn draws ac yn anneuaidd yn y gymdeithas heddiw, gan nodi iaith ac ymddygiad priodol ac atgyfnerthu pwysigrwydd trin cydweithwyr a chwsmeriaid traws ac anneuaidd gyda'r urddas a'r parch y maent yn ei haeddu.

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Mae hwn yn gwrs a ddarperir gan gwmni allanol ac ar gael yn Saesneg yn unig. Mae’n hygyrch i staff sy’n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin yn unig.

Dull darparu:

eDdysgu

Hyd y cwrs:

15 munudau

Cost:

Dim tâl

Mewngofnodi i e-Ddysgu