Datblygu Tîm

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Timau sy'n wynebu cyfnod o newid ac a fyddai'n elwa o weithio ar y cyd i gynllunio ar gyfer y dyfodol a chytuno ar flaenoriaethau.

Beth yw'r amcanion?

Byddwn yn cytuno â chi ar y nodau penodol er mwyn paratoi ar gyfer y sesiynau, ond gallai'r rhain gynnwys:

  • Nodi'r hyn y mae'r staff a'r cwsmeriaid yn ei werthfawrogi fwyaf gan y gwasanaeth ar hyn o bryd
  • Ble mae'r tîm yn dymuno cyrraedd? (nodi sut y byddant yn hoffi i'r gwasanaeth edrych ymhen 5 mlynedd)
  • Pa gamau bydd angen i’r tîm eu cymryd i gyflawni hyn?

Sesiwn ymarferol yw hon sy'n arwain at greu cynllun gweithredu a ffordd ymlaen.

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd y sesiwn hon yn cynnig cyfle i'ch tîm weithio gyda'i gilydd a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

Hyd y cwrs:

Hanner - 1 diwrnod

Cost:

Rhad ac am ddim i'w gynnal. Bydd angen i'r tîm ddarparu lleoliad ac unrhyw luniaeth.

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.