Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl Oedolion (MHFA)

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Yr holl Staff

Beth yw'r amcanion?

Nod y cwrs hwn yw rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth angenrheidiol i ddysgwyr i roi cymorth cyntaf iechyd meddwl i unigolyn mewn angen. Bydd ystod o bynciau yn cael sylw drwy gydol y cwrs gan gynnwys:

  • Cyflwyniad i iechyd meddwl
  • Stigma, ffactorau risg ac ymyrraeth gynnar
  • Iselder, meddyliau hunanladdol a hunan-niweidio
  • Gorbryder, pyliau o banig a phrofiadau trawmatig
  • Seicosis ac episodau seicotig
  • Defnyddio sylweddau
  • Cymorth cyntaf argyfwng a chynllun gweithredu Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
  • Rhoi cynllun gweithredu Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl ar waith

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd y cwrs hwn yn rhoi cipolwg i ddysgwyr ar rai cyflyrau iechyd meddwl allweddol, gan gynnwys eu harwyddion, eu symptomau a'u ffactorau risg. Bydd dysgwyr yn dysgu sut i asesu sefyllfa'n briodol, gwrando heb feirniadu, rhoi cefnogaeth a chyfeirio unigolyn at gymorth pellach. Bydd dysgwyr yn cael cyfle i ymarfer y sgiliau maent wedi'u datblygu drwy chwarae rôl a thrafodaeth. Dylai dysgwyr gwblhau'r cwrs gan deimlo'n hyderus i gefnogi ffrind, cydweithiwr neu aelod o'r teulu yn ystod argyfwng iechyd meddwl.

Hyd y cwrs:

Diwrnod 2

Cost:

£130+TAW y person

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.