Gweithdai Rheoli Straen ac Iechyd Meddwl yn y Gweithle

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Holl Reolwyr Pobl

Beth yw'r amcanion?

Er mwyn cynorthwyo rheolwyr i leihau straen ac absenoldeb salwch sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl yn eu meysydd gwasanaeth, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi trefnu rhaglen o weithdai “Rheoli Straen ac Iechyd Meddwl yn y Gweithle”. Anogir yn gryf dylai pob rheolwr fynychu'r gweithdai hyn.

Prif amcanion y gweithdai hyn yw:

  • Gwella eich dealltwriaeth sbardunau ar gyfer straen - gwaith a phersonol, a'r effaith y gallant ei chael ar staff a’r gwasanaethau a ddarparwyd.
  • Rhoi'r wybodaeth, yr offer a'r hyder sydd eu hangen arnoch i'ch galluogi i nodi, asesu a rheoli achosion straen yn eich meysydd gwasanaeth.
  • Rhoi'r wybodaeth, yr offer a'r cymorth sydd eu hangen arnoch i allu darparu cymorth cadarnhaol ac effeithiol i staff ag iechyd meddwl gwael.
  • Rhoi'r wybodaeth, yr offer a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnoch i ddatblygu a chynnal amgylchedd gwaith sy'n hwyluso a hyrwyddo lles cadarnhaol staff.

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Mae’r meysydd dysgu a drafodwyd yn ystod y gweithdai hyn yn cynnwys:

  • Diffinio straen sy'n gysylltiedig â gwaith a'i achosion a'i effeithiau ar unigolion a thimau
  • Cynnal asesiadau risg straen gyda thimau ac unigolion
  • Ymyriadau rheoli straen effeithiol
  • Monitro effeithiau gweithredoedd ac ymyriadau rheoli straen
  • Sut i adnabod a chefnogi staff ag iechyd meddwl gwael
  • Astudiaethau achos straen ac iechyd meddwl yn y gweithle

Dull darparu:

Ystafell Ddosbarth

Hyd y cwrs:

Un diwrnod

Cost:

Dim cost

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.