Negeseuon E-bost

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Pob gweithiwr sy'n defnyddio negeseuon e-bost fel rhan o'i rôl i gyfathrebu a chydweithio â'i dîm.

Gellir addasu'r sesiynau hyn ar gyfer anghenion tîm penodol.

Beth yw'r amcanion?

  • Deall sut i reoli nifer fawr o negeseuon e-bost a chyfarfodydd
  • Deall sut i fod yn gyfrifol wrth anfon negeseuon e-bost
  • Diffinio ymddygiad allweddol o ran negeseuon e-bost

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Dysgwch sut i reoli nifer fawr o negeseuon e-bost, sut i anfon negeseuon e-bost yn gyfrifol ac arferion da o ran negeseuon e-bost.

Hyd y cwrs:

1 awr 30 munud

Cost:

No Cost

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.