Hyfforddiant Diogelwch Personol a Rheoli Gwrthdaro

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Mae'r cwrs hyfforddi hwn yn para diwrnod ac yn un o'r sesiynau hyfforddi gorfodol ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso, yn ystod eu Blwyddyn Gyntaf o Ymarfer.

Beth yw'r amcanion?

Bod y cyfranogwyr yn cael:

  • Gwybodaeth am y sgiliau angenrheidiol i ymdrin yn ddiogel ac yn effeithiol â sefyllfaoedd o wrthdaro yn y gweithle. Trwy asesiad risg dynamig, bydd Gweithwyr Cymdeithasol yn dysgu sut a phryd y mae'n ddiogel cymryd rheolaeth ar sefyllfaoedd o wrthdaro
  • Gwybodaeth ac enghreifftiau o amrywiol sgiliau a strategaethau er mwyn delio'n effeithiol ac yn ddiogel â gwrthdaro
  • Cyfleoedd i ddatblygu eu gwybodaeth drwy gyfuniad o gyfranogiad ymarferol a theori. Nod yr hyfforddiant yw rhoi cyfle i Weithwyr Cymdeithasol drafod ac archwilio materion mewn amgylchedd dysgu diogel

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd gan Weithwyr Cymdeithasol sydd newydd gymhwyso well dealltwriaeth o'r cyd-destun ar gyfer arferion gwaith cymdeithasol. Bydd ganddynt y wybodaeth i ddatblygu sgiliau a strategaethau ar gyfer rheoli gwrthdaro mewn ymarfer. Bydd yn galluogi Gweithwyr Cymdeithasol i ganolbwyntio ar lesiant personol a diogelwch personol.

Dull darparu:

Ystafell Ddosbarth

Hyd y cwrs:

1 Diwrnod

Cost:

Dim Tâl

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.