Myfyrio Beirniadol Mewn Grym

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Hwn yw'r cyntaf mewn Cyfres o 3 Gweithdy Datblygu ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol Newydd Gymhwyso yn eu Blwyddyn Gyntaf yn eu Swydd. Hefyd mae'n bwysig nodi fod y gweithdai hyn yn paratoi gweithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso ar gyfer y gwaith sydd i'w gwblhau yn y Rhaglen Atgyfnerthu yn eu hail flwyddyn yn eu swydd.

Beth yw'r amcanion?

Sicrhau bod gan y Cyfranogwyr:

  • Dealltwriaeth o'r gwahaniaethau rhwng myfyrio a myfyrio beirniadol; ymchwilir i hyn drwy ystyried y diffiniadau a thrwy ddadansoddi dyfnder a phwysigrwydd cymhwyso myfyrio beirniadol at arferion; myfyrio ar lefelau gwahanol, a hefyd ystyried sut y gellir defnyddio'r rhain i gyfrannu at farn broffesiynol mewn asesiadau.
  • Cyfle i ymchwilio i fodelau myfyrio beirniadol; bydd hyn yn caniatáu i'r cyfranogwyr ddatblygu gwybodaeth a seiliwyd ar waith; cael cyfle i ddatblygu gwybodaeth am wahanol fodelau myfyrio personol y gallant eu defnyddio mewn asesiadau ac wrth weithio.
  • Ymchwiliad o ran arferion uniongyrchol a myfyrio beirniadol; bydd hyn yn cynnwys cysylltu damcaniaeth ag arferion o ran y gallu i ymchwilio i ffactorau megis y risg o niwed a chamdriniaeth i oedolion a phlant; atebolrwydd proffesiynol; myfyrio fel ymarferwr cymwys.
  • Cyfle i ystyried ffyrdd o ddatblygu sgiliau myfyrio ar arferion ar lefel ddyfnach; gweithio'n fwyfwy annibynnol mewn sefyllfaoedd cymhleth; sicrhau bod meddwl yn feirniadol ac ymagweddau cyfannol yn rhan annatod o'r arferion; ystyried a gwerthuso eich arferion eich hun.

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd y ddealltwriaeth sydd gan weithwyr cymdeithasol newydd gymhwyso o feddwl yn feirniadol yn gwella a byddant yn datblygu rhagor o sgiliau yn y maes. Byddant yn gallu defnyddio ymagweddau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac ar ganlyniadau i gyflawni ystod o asesiadau gan gydweithio ar yr un pryd â defnyddwyr y gwasanaeth, gofalwyr, a gweithwyr proffesiynol eraill.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

1 Diwrnod

Cost:

Dim Tâl

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.