Deall effeithiau cam-drin domestig ar blant a phobl ifanc
Ar gyfer pwy mae'r cwrs?
Pawb sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc
Beth yw'r amcanion?
Bydd cynrychiolwyr yn datblygu eu dealltwriaeth o gam-drin domestig mewn perthynas â phlant a phobl ifanc. Bydd yr uned yn ymdrin ag arwyddion o gamdriniaeth, ffyrdd y gall cam-drin ddylanwadu ar blant a phobl ifanc, gan gynnwys y rolau y gallant eu cymryd, a ffyrdd y gellir defnyddio pŵer a rheolaeth mewn perthnasoedd.
Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?
Bydd cynrychiolwyr yn cynyddu eu gwybodaeth a'u sgiliau er mwyn hwyluso gwell canlyniadau i blant a phobl ifanc.
Agored Cymru Dyfarniad Lefel 2 mewn Gweithio gyda Dioddefwyr/Goroeswyr Cam-drin Domestig
Grwpiau Diogelu A a B
Dull darparu:
Dull cyfunol
Hyd y cwrs:
1 Day
Cost:
Dim Cost
Sut i gwneud cais:
Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.
Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.
Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.
Dylai partneriaid, staff asiantaeth neu bobl nad ydynt yn gweithio i'r Cyngor ond sy'n bodloni'r meini prawf o ran mynychu'r cwrs hwn gwblhau'r ffurflen gais hon.
Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais os ydych yn gweithio i'r Cyngor neu gallwch ymweld â'r dudalen hon os nad ydych chi'n gweithio'n uniongyrchol i ni. Mae'n bwysig eich bod chi'n cwblhau'r ffurflen gais gywir ar-lein. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.