Diogelwch Grŵp A

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Mae Grŵp A yn cynnwys yr holl staff sy'n gweithio neu'n gwirfoddoli mewn sefydliad neu asiantaeth sector cyhoeddus neu wirfoddol yng Nghymru, gan gynnwys y rhai mewn lleoliadau sector preifat, gwirfoddolwyr ac aelodau etholedig awdurdodau lleol.

Beth yw'r amcanion?

Y nod yw i'r holl staff a gwirfoddolwyr gael dealltwriaeth am ddiogelu, gwybod y camau i'w cymryd a'u cyfrifoldeb o rannu pryderon am niwed, camdriniaeth neu esgeulustod gwirioneddol neu bosibl.

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Mae'n ofynnol i holl staff a gwirfoddolwyr yr awdurdod lleol gwblhau'r lefel hon o ddysgu fel gofyniad gorfodol. Ni fydd unrhyw lefel ddysgu arall ar gael i staff hyd nes y bydd y lefel ymwybyddiaeth hon o ddysgu wedi'i chwblhau.

Nodwch - Bydd rhaid diweddaru'r lefel ddysgu hon bob 3 blynedd o'ch cwblhau cyntaf.

Dull darparu:

Ystafell Ddosbarth

Hyd y cwrs:

2 Awr

Cost:

Dim Cost

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Dylai partneriaid, staff asiantaeth neu bobl nad ydynt yn gweithio i'r Cyngor ond sy'n bodloni'r meini prawf o ran mynychu'r cwrs hwn gwblhau'r ffurflen gais hon.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais os ydych yn gweithio i'r Cyngor neu gallwch ymweld â'r dudalen hon os nad ydych chi'n gweithio'n uniongyrchol i ni. Mae'n bwysig eich bod chi'n cwblhau'r ffurflen gais gywir ar-lein. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.