Hyfywedd Meinwe (Gofal Pwysau)

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Yr holl staff gofal cymdeithasol mewn gwasanaethau gofal preswyl, nyrsio a chartref.

Beth yw'r amcanion?

Bydd cyfranogwyr yn dysgu sut i wneud y canlynol:

  • Disgrifio swyddogaethau'r croen
  • Deall diffiniad briw pwyso
  • Adnabod yn gywir y graddau gwahanol o niwed pwyso.
  • Adnabod pa ffactorau risg sy'n cyfrannu at ddatblygu briwiau pwyso
  • Nodi sut y gellir atal niwed pwyso.
  • Egluro pwysigrwydd archwilio'r croen a gofal croen a sut y gall effeithio ar ddifrod i'r croen a briwiau pwyso.
  • Bod yn ymwybodol o gyfyngiadau personol os bydd briw pwyso yn datblygu a sut i gael help ac arweiniad.

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Galluogi'r dysgwr i nodi ffactorau risg o ran datblygu briw pwyso a deall sut i atal niwed pwyso i'r cleient sydd mewn perygl.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

2 Hwrs

Cost:

Am ddim

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Dylai partneriaid, staff asiantaeth neu bobl nad ydynt yn gweithio i'r Cyngor ond sy'n bodloni'r meini prawf o ran mynychu'r cwrs hwn gwblhau'r ffurflen gais hon.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais os ydych yn gweithio i'r Cyngor neu gallwch ymweld â'r dudalen hon os nad ydych chi'n gweithio'n uniongyrchol i ni. Mae'n bwysig eich bod chi'n cwblhau'r ffurflen gais gywir ar-lein. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.