Anhwylderau Ymennydd Organig a'r Ddeddf Iechyd Meddwl

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Ymarferwyr Iechyd Meddwl Cymeradwy yng Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro

Beth yw'r amcanion?

  • Archwilio a deall yr anhwylderau ymennydd organig mwyaf cyffredin, eu cyflwyniad a'u heffaith ar swyddogaeth gwybyddol, gweithredol a chymdeithasol
  • Deall a chodi ymwybyddiaeth o niwed i'r ymennydd sy'n gysylltiedig ag alcohol a'r effeithiau posibl ar ymarfer a phenderfyniadau gyda'r grŵp hwn
  • Adnabod ac archwilio anghenion ac effeithiau cyfathrebu ar weithrediad gweithredol a gwneud penderfyniadau ar gyfer unigolion y mae Anhwylderau Niwrowybyddol Organig yn effeithio arnynt
  • Dealltwriaeth o sut mae'r Côd Ymarfer a chyfraith achos yn llywio'r Ddeddf Iechyd Meddwl ac asesiad galluedd meddyliol ar gyfer y grŵp defnyddwyr gwasanaeth hwn
  • Ymwybyddiaeth o faterion asesu a rheoli risg gyda'r unigolion hynny sydd â chyflyrau iechyd meddwl yn cydfodoli
  • Archwilio ymddygiadau, cyflwyniadau a materion eithrio cymdeithasol cyffredin sy'n gysylltiedig ag anhwylderau niwrowybyddol
  • Cynyddu ymwybyddiaeth o sut y gallai materion cydraddoldeb ac amrywiaeth a hawliau dynol fod yn berthnasol ac archwilio materion ymarfer gwrthwahaniaethol

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Gall ystod eang o ffactorau effeithio ar les gwybyddol a chymdeithasol unigolion ac mae'r sesiwn undydd hon yn canolbwyntio ar effaith anhwylderau ymennydd organig, y cyfeirir atynt yn fwy diweddar hefyd fel anhwylderau niwro-wybyddol, ar iechyd meddwl unigolion a'r hyn y dylid ei ystyried wrth gymhwyso 'amgylchiadau cyfan' adran 13 yn y broses asesu YIMC. Mae'r sesiwn diweddaru YIMC undydd hon wedi'i chynllunio i ddiweddaru gwybodaeth cyfranogion, trwy ystyried sefyllfa bresennol y dystiolaeth sydd ar gael a dyfarniadau cyfraith achos, gan rhoi cyfle i fyfyrio gyda chyfoedion ar themâu a allweddol wrth asesu anghenion a risgiau cymhleth a lluosog.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

1 Diwrnod

Cost:

Dim Cost

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.