Plant, Pobl Ifanc, Iechyd Meddwl a'r Gyfraith (Hyfforddiant Gloywi ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy)

Ar gyfer pwy mae'r cwrs?

Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy sy'n cael eu cyflogi gan Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.

Beth yw'r amcanion?

Mae'r hyfforddiant hwn yn ceisio datblygu gwybodaeth am yr agweddau cyfreithiol ar dderbyn plant a phobl ifanc sydd ag anghenion iechyd meddwl cymhleth i'r ysbyty a'u triniaeth. Yn benodol, bydd yn rhoi sylw i'r canlynol:

  • Y gyfraith a pholisi sy'n berthnasol i dderbyn a thrin plant a phobl ifanc o dan 18 oed yn anffurfiol, gan gynnwys asesu capasiti a chymhwysedd
  • Rheolau o ran cyfrifoldeb rhieni ac adnabod perthynas agosaf
  • Triniaeth a gofal mewn ysbytai a chyfrifoldeb awdurdodau lleol
  • Cyfraith achos perthnasol ynghylch amddifadu o ryddid pobl ifanc
  • Archwilio'r gallu i ddefnyddio'r wybodaeth yn ymarferol

Sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth?

Bydd yr hyfforddiant yn cefnogi Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy wrth ymateb i gais am asesu plentyn neu berson ifanc o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.

Dull darparu:

Ar-lein

Hyd y cwrs:

6 awr dros ddau ddyddiad

Cost:

Dim Cost

Sut i gwneud cais:

Os ydych chi'n gweithio i Gyngor Sir Caerfyrddin ac wedi mewngofnodi i ddyfais CSC - cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar, cwblhewch y ffurflen gais hon.

Os ydych chi'n gweithio i'r Cyngor ond HEB fod â mynediad i ddyfais CSC na chyfeiriad e-bost, bydd angen i'ch rheolwr llinell wneud cais ar eich rhan.

Ni all gweithwyr y Cyngor wneud cais am unrhyw gyrsiau o'u dyfeisiau personol.


Ni all partneriaid, staff asiantaeth neu bobl sydd ddim yn gweithio i'r Cyngor gwneud cais am y cwrs hwn.


Bydd y system ymgeisio ar-lein dim ond yn dangos cyrsiau sy'n agored i archebu lle arnynt. Os nad yw'r cwrs rydych chi â diddordeb yn ei fynychu ar y rhestr, gallwch gofrestru eich diddordeb drwy gysylltu â'r Tîm Dysgu a Datblygu, e-bost: dysguadatblygu@sirgar.gov.uk.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud a rheoli eich cais. Os oes angen unrhyw gymorth neu os oes gennych ymholiad, e-bostiwch y Tîm Dysgu a Datblygu.