Digwyddiad Ymgysylltu â Rheolwyr Pobl Mawrth 2026
Diweddarwyd y dudalen: 27/05/2026
Cynhaliwyd y Digwyddiad Ymgysylltu â Rheolwyr Pobl yn Theatr y Ffwrnes, Llanelli, ar 24 Mawrth 2026, gan ddod â rheolwyr o bob rhan o’r adran Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai ynghyd ar gyfer diwrnod o ddysgu, myfyrio a chysylltu. Cafodd y digwyddiad ei gyflwyno dros ddwy sesiwn, gan roi cyfle gwerthfawr i gydweithwyr gyfarfod wyneb yn wyneb, clywed gan siaradwyr arbenigol ac ymgysylltu â blaenoriaethau allweddol y sefydliad.
Roedd y digwyddiad hwn hefyd yn garreg filltir i’r Cyfarwyddwr newydd, Darren Mutter, gan ei fod yn gyfle cyntaf iddo gyflwyno ei hun i’r gyfarwyddiaeth, gan gynnwys rheolwyr y Gwasanaethau Plant a oedd yn mynychu digwyddiad ar draws y gyfarwyddiaeth am y tro cyntaf ers ymuno â’r adran.
Mwy ynghylch Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai
