Polisi Rheoli Straen ac Iechyd Meddwl yn y Gweithle 2026-2029

Cyfrifoldebau

4.1 Prif Weithredwr / Cyfarwyddwyr / Penaethiaid Gwasanaeth / Uwch-reolwyr

Mae uwch-arweinwyr yn gyfrifol am arweinyddiaeth strategol, llywodraethu a goruchwylio'r polisi hwn. Byddant yn:

  • Hyrwyddo diwylliant sefydliadol cadarnhaol lle mae iechyd meddwl a llesiant yn cael eu blaenoriaethu a'u trafod yn agored.

  • Sicrhau bod adnoddau, hyfforddiant, goruchwylio a mecanweithiau cymorth digonol ar waith.

  • Monitro data sefydliadol sy'n ymwneud â straen, iechyd meddwl ac absenoldeb salwch a gweithredu ar risgiau neu dueddiadau sy'n dod i'r amlwg.

  • Sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth a pholisïau corfforaethol perthnasol, gan gynnwys Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a'r rheoliadau cysylltiedig.

  • Darparu arweinyddiaeth glir a dal rheolwyr yn atebol am weithredu'r polisi hwn yn effeithiol.

  • Sicrhau bod rheoli risg straen wedi'i ymgorffori o fewn cynllunio gwasanaethau, rheoli risg a phrosesau newid sefydliadol.

4.2 Rheolwyr Llinell a Goruchwylwyr

Mae rheolwyr llinell a goruchwylwyr yn gyfrifol am reoli straen ac iechyd meddwl o ddydd i ddydd yn eu timau. Byddant yn:

  • Cynnal asesiadau risg straen addas a digonol a gweithredu mesurau rheoli priodol.

  • Monitro llwythi gwaith, amgylcheddau gwaith a newid sefydliadol i leihau risgiau sy'n gysylltiedig â straen.

  • Cynnal cyswllt rheolaidd â gweithwyr, gan gynnwys trafodaethau llesiant strwythuredig.

  • Nodi arwyddion cynnar o straen neu afiechyd meddwl a chymryd camau amserol, cefnogol a phriodol.

  • Cefnogi gweithwyr i gael mynediad at fecanweithiau cymorth mewnol ac allanol (e.e. AD, Iechyd Galwedigaethol).

  • Sicrhau bod cyfrinachedd yn cael ei gynnal wrth gyflawni eu dyletswydd gofal.

  • Cofnodi, adolygu a rheoli achosion yn gyson ac yn unol â gweithdrefnau'r Cyngor.

4.3 Gweithwyr (gan gynnwys Gweithwyr Asiantaeth a Gweithwyr Achlysurol)

Mae gan bob gweithiwr, gan gynnwys gweithwyr asiantaeth a gweithwyr achlysurol, gyfrifoldeb dros gymryd gofal rhesymol o'u hiechyd a'u llesiant eu hunain ac eraill. Byddant yn:

  • Ymgysylltu'n gadarnhaol â'r polisi hwn a chyfrannu at amgylchedd gwaith cefnogol a pharchus.

  • Codi pryderon ynglŷn â straen, iechyd meddwl neu lwyth gwaith yn gynnar gyda'u rheolwr neu gyswllt priodol.

  • Cydweithredu ag asesiadau risg, cynlluniau cymorth ac unrhyw addasiadau rhesymol a weithredir.

  • Trin cydweithwyr gydag urddas a pharch a herio stigma sy'n gysylltiedig ag afiechyd meddwl.

  • Gwneud defnydd priodol o'r gwasanaethau cymorth sydd ar gael.

4.4 Pobl, Digidol a Pholisi (gan gynnwys Adnoddau Dynol, Iechyd a Diogelwch, Iechyd Galwedigaethol a Dysgu a Datblygu)

Bydd y swyddogaeth Pobl, Digidol a Pholisi yn darparu cyngor, cefnogaeth a monitro proffesiynol i sicrhau bod y polisi hwn yn cael ei weithredu'n effeithiol. Byddant yn:

  • Darparu arweiniad i reolwyr a gweithwyr ar reoli straen ac iechyd meddwl yn y gweithle.

  • Cefnogi prosesau asesu risg, rheoli achosion a gweithredu mesurau rheoli.

  • Darparu hyfforddiant, rhaglenni ymwybyddiaeth a deunyddiau canllaw ategol.

  • Monitro effeithiolrwydd y polisi trwy brosesau dadansoddi data, adrodd ac adolygu.

  • Hyrwyddo dull rhagweithiol, ataliol a chyson ar draws y sefydliad.

4.5 Aelodau Etholedig

Mae gan Aelodau Etholedig gyfrifoldeb i gynnal egwyddorion y polisi hwn yn eu rhyngweithio â gweithwyr a'r cyhoedd. Byddant yn:

  • Hyrwyddo cydraddoldeb, urddas a pharch yn unol â gwerthoedd y Cyngor.

  • Cefnogi creu amgylchedd gwaith cadarnhaol sy'n rhydd o stigma a gwahaniaethu.

  • Herio ymddygiad amhriodol lle mae'n cael ei nodi.

  • Cadw at y Côd Ymddygiad a pholisïau cysylltiedig wrth ymgymryd â'u dyletswyddau.

4.6 Contractwyr, Gwirfoddolwyr ac Ymwelwyr

Disgwylir i gontractwyr, gwirfoddolwyr ac ymwelwyr weithredu mewn ffordd sy'n cefnogi iechyd, diogelwch a llesiant eu hunain ac eraill. Byddant yn:

  • Cydymffurfio â pholisïau, gweithdrefnau a rheolau safle perthnasol y Cyngor wrth ymgymryd â gweithgareddau.

  • Cymryd gofal rhesymol o'u hiechyd meddwl a'u llesiant eu hunain a llesiant eraill a allai gael eu heffeithio gan eu gweithredoedd.

  • Rhoi gwybod am unrhyw bryderon sy'n ymwneud â straen, llesiant neu arferion anniogel i gynrychiolydd y Cyngor.

  • Cydweithredu ag unrhyw gyfarwyddiadau rhesymol neu fesurau rheoli sydd ar waith i reoli risgiau iechyd a diogelwch.