Arolwg Gweithio Hybrid 2023 - Canlyniadau

Diweddarwyd y dudalen: 06/11/2024

Gwnaethom gynnal yr arolwg untro hwn rhwng 26 Medi a 16 Hydref 2023 a chawsom 991 o ymatebion.

Gwnaethom ofyn amrywiaeth o gwestiynau mewn perthynas â rheoli a gweithio mewn tîm hybrid, ac rydym wedi crynhoi'r ymatebion i chi ar y dudalen hon.

Roeddech hefyd wedi rhannu eich barn am y manteision a'r heriau o ran gweithio mewn ffordd hybrid. I weld pa gamau rydym yn eu cymryd yn seiliedig ar eich adborth, edrychwch ar ein tudalennau Arolwg Gweithio Hybrid 2023 – Fe ddwedsoch chi, fe wnaethon ni wrando, a fydd yn cael eu cyhoeddi dros yr wythnosau nesaf.

Cafodd arolwg gweithio hybrid ei gynnal gennym yn ddiweddar, a anfonwyd at ein holl weithwyr aml-leoliad. Cymerodd bron i 1,000 ohonoch ran yn yr arolwg hwn, ac rydym yn hynod ddiolchgar eich bod wedi dewis gwneud hynny.

Neges gan y Tîm Rheoli Corfforaethol

Mae'r arolwg bellach wedi cau, ac mae eich ymatebion wedi eu dadansoddi – gallwch ddysgu mwy drwy ymweld â'n tudalen Arolwg Gweithio Hybrid - Canlyniadau  ar y fewnrwyd. Mae'r Tîm Rheoli Corfforaethol wedi cwrdd i fynd drwy'r canlyniadau, ac rydym am roi gwybod ichi nawr am y canfyddiadau a sut byddant yn arwain at addasiadau i'n ffordd o weithio.

Mae'n amlwg o'r adborth fod gweithio hybrid yn gweithio'n dda i reolwyr a staff, gan i lawer ohonoch nodi nifer o fanteision, a'r rheiny'n amrywio o well cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith i fod yn fwy cynhyrchiol. Rydym hefyd yn gweld bod llawer ohonoch yn rhannu eich amser rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio o bell. Fodd bynnag, mae'n glir bod anghysondeb, sy'n peri i rai deimlo nad yw'r sefyllfa'n deg. Nid ydym am gael gwared ar hybrid fel opsiwn, ond roedd yn amlwg yn yr arolwg ei fod yn cael ei ddefnyddio mewn ffyrdd gwahanol iawn, ac, mewn rhai achosion, fel rheswm dros beidio â dod i mewn i'r gweithle - nid dyma yw gweithio hybrid! Mae'n werth nodi fan hyn fod llawer wedi ymateb i ddweud bod yn well ganddynt ddod i mewn i'r swyddfa yn amser llawn, ac mae hynny'n iawn.

Mae gweithio hybrid yn fantais ddewisol nid contractiol, a byddwn yn parhau i'w drin fel hynny. Rydym am gadw'r cynnig gweithio hyblyg, ond am sicrhau bod PAWB yn elwa ar y ffordd hon o weithio, hynny yw, chi a'r busnes.

Felly, er mwyn symud ymlaen mewn ffordd fwy cyson, ein bwriad nawr yw gwneud y newidiadau canlynol:

Y tîm - rydym yn disgwyl i'n holl bobl, sy'n gweithio mewn ffordd hybrid, fod yn y gweithle am o leiaf 40% o'u hwythnos waith. Dyma beth mae llawer ohonoch chi yn ei wneud yn barod, ond er mwyn sicrhau tegwch a chysondeb mae angen ein bod ni i gyd yn gwneud yr un peth. Bydd hyn yn sicrhau bod y ffordd rydym yn gweithio yn ein helpu i'r graddau mwyaf posibl o ran cyflawni ein hamcanion.

Rheolwyr Pobl - mae cael eich gweld yn rhan allweddol o arwain, boed hynny'n arwain tîm o un neu dîm o gannoedd. Nid mater o fod yn 'bresennol' yn unig yw hi; mae'n fwy ynghylch rhyngweithio corfforol, llesiant (chi a'ch tîm), ethos a diwylliant tîm. Oherwydd hynny, rydym yn disgwyl presenoldeb corfforol ychydig yn fwy gan arweinwyr ac rydym yn gofyn iddynt drefnu treulio o leiaf 50% o'u hamser yn gorfforol gyda'u timau.

Rydych wedi dweud wrthym am rai o heriau ymarferol gweithio hybrid, sy'n cynnwys:

  • Dim digon o le ar gyfer cyfarfodydd tîm a chydweithio wyneb yn wyneb.
  • Swyddfeydd nad ydynt wedi'u cyfarparu'n dda o ran dodrefn a chyfleusterau.
  • Cysylltedd Wi-Fi gwael yn rhai o'n hadeiladau.
  • Offer TG annibynadwy neu annigonol yn ein mannau gweithio achlysurol.
  • Meddu ar y sgiliau priodol i ddefnyddio'r dechnoleg sydd ar gael ar gyfer cyfarfodydd hybrid, yn ogystal â chyfarwyddiadau annigonol i ddefnyddwyr.
  • Llefydd parcio.

Rydym felly wedi gofyn i'n tîm Trawsnewid weithio gydag uwch-swyddogion i fynd i'r afael â'r heriau hyn, a chyn gynted ag y bydd ar gael byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth ar ein tudalen Llais Staff ar y fewnrwyd.

Mae rhai ohonoch hefyd wedi siarad am y risgiau sy'n gysylltiedig â gweithio hybrid, sy'n cynnwys:

  • Unigrwydd / arwahanrwydd wrth weithio o bell.
  • Llai o synnwyr o berthyn ac o fod mewn cysylltiad ag eraill.
  • Diffyg cyswllt o fewn timau
  • Llai o gyfleoedd i feithrin a chynnal perthnasoedd gwaith cryf.
  • Dechreuwyr newydd ddim yn deall diwylliant y sefydliad a ddim yn dysgu oddi wrth eraill.
  • Y broses o wneud penderfyniadau / datrys ymholiadau yn arafach.
  • Y gallu i gefnogi llesiant ein staff.

Hefyd mae canfyddiadau astudiaethau allanol, yn ogystal â'r gwersi a ddysgwyd oddi wrth sefydliadau eraill, yn dangos i ni fod cydweithio wyneb yn wyneb yn gwella arloesi a chreadigrwydd ac yn bwysig iawn i sicrhau ein bod yn cynnal ein diwylliant tîm. 

Fel Tîm Rheoli Corfforaethol, rydym yn credu bydd yr ymagwedd gyson hon at weithio hybrid yn ein helpu ni i oresgyn y risgiau hyn. Wrth gwrs, byddwn yn adolygu'r trefniadau hyn yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn dal i weithio i ni fel sefydliad.

Bydd ein tîm Gwasanaethau Pobl yn anfon gwybodaeth at ein holl staff sy'n gweithio mewn rôl aml-leoliad i gadarnhau beth mae hyn yn ei olygu o safbwynt contractiol.

Fel rydym wedi'i ddweud o'r cychwyn cyntaf, ffordd newydd o weithio yw hon, nid un gontractiol. Mae'r arolwg yn dweud wrthym ei bod yn gweithio ond bod angen ei haddasu, ac mae hynny'n normal yn ystod proses o newid.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau mewn perthynas â'r neges hon, siaradwch â'ch rheolwr neu Bennaeth Gwasanaeth. Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth ar ein tudalennau mewnrwyd Gweithio Hybrid.

 

Gan eich Tîm Rheoli Corfforaethol:

Prif Weithredwr - Wendy Walters

Prif Weithredwr Cynorthwyol - Paul Thomas

Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol - Jake Morgan

Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol - Chris Moore

Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant - Gareth Morgans

Cyfarwyddwr Lle a Seilwaith - Ainsley Williams

Pennaeth Gweinyddiaeth a’r Gyfraith - Linda Rees Jones

Roeddem am wybod mwy am eich profiadau o reoli tîm hybrid. Atebodd 296 o'n rheolwyr yr adran hon o'r arolwg.
Gwnaethom ofyn y cwestiynau canlynol i'n rheolwyr:

1.Ydych chi wedi trafod ac adolygu eu trefniadau gweithio unigol?
    Ydw - 97%
    Nac ydw - 3%

2. Pa mor fodlon ydych chi fod y trefniadau'n gweithio i'ch gwasanaeth?

Sgôr Ymatebion
Bodlon iawn 51%
Bodlon 33%
Eithaf bodlon 13%
Anfodlon 2%
Anfodlon iawn 1%

 

3. Pa mor fodlon ydych chi fod y trefniadau'n gweithio i chi fel rheolwr?

Sgôr Ymatebion
Bodlon iawn 48.5%
Bodlon 34%
Eithaf bodlon 13%
Anfodlon 4%
Anfodlon iawn 0.5%

 

4. Pa mor fodlon ydych chi fod y trefniadau'n gweithio i aelodau eich tîm?

Sgôr Ymatebion
Bodlon iawn 49%
Bodlon 37%
Eithaf bodlon 11%
Anfodlon 2%
Anfodlon iawn 1%

 

5. Ar gyfartaledd, pa mor aml fyddwch chi'n adolygu'r trefniadau hyn??

Sgôr Ymatebion
Bob mis 27%
Bob 6 mis 24%
bob 3 mis 19%
Unwaith y flwyddyn 14%
arall 12%
Byth 4%

 

6. Pa mor fodlon ydych chi â'ch effeithiolrwydd eich hun wrth reoli tîm sy'n gweithio mewn ffordd hybrid?

Sgôr Ymatebion
Bodlon iawn 42%
Bodlon 42%
Eithaf bodlon 11.5%
Anfodlon 4%
Anfodlon iawn 0.5%

 

Roeddem am wybod mwy am eich profiad o weithio mewn ffordd hybrid. Cymerodd 991 o bobl ran yn y rhan hon o'r arolwg. Dyma grynodeb o'r cwestiynau a'ch atebion.

Fe ofynnom ni i chi:

1. Ydych chi'n gweithio mewn ffordd hybrid?
    Ydw - 93%
    Nac ydw – 7%

2. Ydych chi wedi darllen ein canllawiau ar weithio hybrid?
    Ydw - 79%
    Nac ydw - 21%

3. Pa mor fodlon ydych chi â'ch trefniadau gweithio hybrid presennol?

Sgôr Ymatebion
Bodlon iawn 57%
Bodlon 27%
Eithaf bodlon 11%
Anfodlon 3%
Anfodlon iawn 2%

 

4. Ydych chi'n gweithio yn y swyddfa?

Ateb Ymatebion
Ydw 92%
Nac ydw 8%

 

5. Wrth feddwl am wythnos arferol, pa % o'ch amser ydych chi'n ei dreulio yn gweithio yn eich swyddfa?

Yr amser a dreulir yn gweithio yn eich swyddfa Ymatebion
Llai na 20% 23%
Rhwng 20% a 40% 37%
Rhwng 40% a 60% 20%
Rhwng 60% a 80% 9%
Mwy na 80% 11%

 

6. Ydych chi'n gweithio gartref?
    Ydw - 91%
    Nac ydw - 9%

7. Ydych chi wedi darllen ein canllawiau ar weithio gartref yn ddiogel?
    Ydw - 84%
    Nac ydw - 16%

8. Ydych chi wedi cwblhau asesiad Offer Sgrin Arddangos?
    Ydw - 72%
    Nac ydw - 28%

9. Wrth feddwl am wythnos arferol, pa % o'ch amser ydych chi'n ei dreulio yn gweithio gartref?

Yr amser a dreulir yn gweithio gartref Ymatebion
Llai na 20% 8%
Rhwng 20% a 40% 13%
Rhwng 40% a 60% 31%
Rhwng 60% a 80% 29%
Mwy na 80% 19%

 

10. Ydych chi'n gweithio o bell?
      Ydw - 60%
      Nac ydw - 40%

11. Wrth feddwl am wythnos arferol, pa % o'ch amser ydych chi'n ei dreulio yn gweithio o bell?

Yr amser a dreulir yn gweithio o bell Ymatebion
Lai na 20% 39%
Rhwng 20% a 40% 20%
Rhwng 40% a 60% 16%
Rhwng 60% a 80% 13%
Mwy na 80% 12%

 

12. Wrth weithio o bell, ble ydych chi'n gweithio?

Lleoliad Ymatebion
Adeilad y Cyngor ar wahân i'ch swyddfa  32%
Un o fannau gweithio achlysurol y Cyngor 16%
Arall 16%
Gartref 36%

 

13. Ydych chi'n ymwybodol bod gennym fannau gweithio achlysurol i'n staff eu defnyddio wrth weithio o bell?
     Ydw - 88%
     Nac ydw -12%

14. Ydych chi'n gwneud defnydd o'r mannau gweithio achlysurol hyn?
     Nac ydw - 65%
     Ydw - 35%

15. A yw'r cyfleusterau yn ein mannau gweithio achlysurol yn diwallu eich anghenion?
     Ydw - 63%
     Nac ydw - 37%

Gofynnom i chi a oeddech yn ymwybodol o'r dechnoleg a'r cyfleusterau Cyfarfod Hybrid rydym yn eu cynnig. Manteisiodd 402 aelod o staff ar y cyfle i ymateb i'r adran hon o'r arolwg

1. Ydych chi'n ymwybodol o'r cyfleusterau hyn?
     Ydw - 69%
     Nac ydw - 31%

2. Ydych chi'n gwneud defnydd o'r cyfleusterau hyn?
     Ydw – 64%
     Nac ydw – 36%

3. Pa mor fodlon ydych chi â'r cyfleusterau cyfarfod hybrid?

Sgôr Ymatebion
Bodlon iawn 34%
Bodlon 36%
Eithaf bodlon 24%
Anfodlon 3%
Anfodlon iawn 3%