Arolwg Ymgysylltu â Staff 2026 - Canlyniadau Cyffredinol

Diweddarwyd y dudalen: 28/09/2026

Cynhaliwyd yr arolwg staff gan y Cyngor rhwng 8 Mehefin a 17 Gorffennaf 2026. Mae'r arolwg blynyddol hwn wedi'i gynllunio i fesur faint o gysylltiad sydd gan ein gweithwyr â'u gwaith a'u gweithle. Drwy wahodd ein gweithwyr i ateb cwestiynau dros y cyfnod hwn, gallwn gasglu adborth gwerthfawr am eu boddhad o'r gwaith, diwylliant y gweithle a meysydd i'w gwella. Mae'r canlyniadau yn ein helpu i ddeall sut mae gweithwyr yn teimlo am weithio i'r Cyngor, gan nodi beth sy'n gweithio'n dda, a beth y mae angen iddo newid, fel y gallwn wneud penderfyniadau gwybodus a chymryd camau sy'n cefnogi ac yn gwella'r amgylchedd gwaith.

 

Eleni, cymerodd 2,225 ohonoch yr amser i gwblhau'r arolwg a dweud eich dweud. Mae hyn yn cyfateb i 26% o weithlu'r Cyngor ac mae'n gynnydd o 129 o bobl o'i gymharu ag arolwg y llynedd.

Mae'r graff isod yn dangos faint o bobl sydd wedi cymryd yr amser i gymryd rhan yn yr arolwg dros y pedair blynedd diwethaf – ac mae'n braf gweld bod cynnydd wedi bod mewn cyfranogiad dros y tair blynedd diwethaf.

Gofynnom ni i chi ymateb i gyfres o ddatganiadau drwy nodi i ba raddau rydych chi’n cytuno ar raddfa o Cytuno'n Gryf i Anghytuno'n Gryf.

Isod, fe welwch grynodeb o'r canlyniadau cyffredinol ar gyfer 2026 ynghyd â chymhariaeth â blynyddoedd blaenorol yr arolwg. Mae'r canlyniadau eleni hefyd wedi'u rhestru mewn trefn i nodi'n glir ein meysydd cryfder mwyaf yn ogystal â'r rhai y mae angen eu datblygu ymhellach.

Rydym ni wedi defnyddio system cod lliwiau i'w gwneud hi'n hawdd gweld sut y gwnaethom ni:

Gofynnom ni i chi ymateb i gyfres o ddatganiadau drwy nodi i ba raddau rydych chi’n cytuno ar raddfa o Cytuno'n Gryf i Anghytuno'n Gryf.

Isod, fe welwch grynodeb o'r canlyniadau cyffredinol ar gyfer 2025 ynghyd â chymhariaeth â blynyddoedd blaenorol yr arolwg. Mae'r canlyniadau eleni hefyd wedi'u rhestru mewn trefn i nodi'n glir ein meysydd cryfder mwyaf yn ogystal â'r rhai y mae angen eu datblygu ymhellach.

Rydym ni wedi defnyddio system cod lliwiau i'w gwneud hi'n hawdd gweld sut y gwnaethom ni:

  • Gwyrdd Tywyll: Cytuno'n gryf

  • Gwyrdd Golau: Cytuno

  • Ambr: Niwtral / Cytuno rhywfaint
    Coch: Anghytuno

  • Coch Tywyll: Anghytuno’n gryf

 

Datganiad

2026

2025

2024

2023

2022

2026 Raddfa

Gweithio i ni

 

 

 

Rwyf yn falch o weithio i Gyngor Sir Caerfyrddin

9

Byddwn yn hapus i argymell fy nghyflogwr i ffrind / aelod o'r teulu fel lle i weithio

11

Fel y mae ar hyn o bryd, rwy'n bwriadu aros gyda fy nghyflogwr dros y 12 mis nesaf

 

 

 

5

Mae yna bobl yn y gwaith y gallaf siarad â nhw'n agored

6

Gallaf rannu materion gwaith gyda fy nghydweithwyr / aelodau fy nhîm

 

 

 

3

Rwy'n teimlo fy mod yn cael fy ngwerthfawrogi am fy nghyfraniadau yn y gwaith

25

Rwy’n cael fy annog I wneud awgrymiadau a herio’r ffordd y caiff pethau eu gwneud

27

Mae fy syniadau a’m barn yn cael eu clywed a’u defnyddio i wella’r ffordd y caiff pethau eu gwneud

30

Rwy'n gallu gwneud gwelliannau yn fy maes gwaith

 

 

 

26

Teimlaf fod fy nghyflogwr yn cefnogi cydraddoldeb yn y gweithle

13

Gallaf fod yn fi fy hun yn y gwaith

12

Rwy'n ymddiried yn fy nghydweithwyr a fy rheolwyr i weithredu ag uniondeb

 

 

 

15

Rwy'n teimlo'n gyfforddus yn siarad yn agored am faterion sy'n gysylltiedig â gwaith heb orfod ofni canlyniadau

 

 

 

24

Llesiant

 

 

 

 

 

 

 Mae fy llesiant yn bwysig i'm cyflogwr

22

Gallaf gydbwyso gwaith a bywyd personol yn llwyddiannus

 

 

 

20

Rwy'n teimlo'n dda am fy iechyd corfforol

 

 

 

28

Rwy'n teimlo'n dda am fy iechyd meddwl

 

 

 

29

Rwy'n ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael ar gyfer y fy iechyd a'm llesiant

 

 

 

14

Mae fy rheolwr yn rhagweithiol wrth gefnogi a blaenoriaethu llesiant

 

 

 

19

Cyfathrebu

 

 

 

Rwy’n gwybod beth sy’n digwydd yn fy nhim/ lleoliad gwaith

21

Rwy'n gwybod beth sy’n digwydd ar draws y sefydliad

32

Dysgu a Datblygu

 

 

 

Rwy’n cael fy annog i ddysgu a datblygu yn fy rol

16

Rwyf wedi cael cyfleoedd i ddysgu a thyfu yn y 12 mis diwethaf

17

Gallaf fanteisio ar gyfleoedd dysgu yn fy newis iaith

1

Disgwyliadau a Chydnabyddiaeth

 

 

 

Mae fy swydd yn gwneud cyfraniad pwysig i amcanion y cyngor

8

Rwy'n gwybod beth a ddisgwylir gennyf yn y gwaith

2

Rwy'n gwybod beth y mae fy rheolwr yn ei ddisgwyl gennyf fi

4

Rwy’n glir ynghylch yr hyn y gallaf ei ddisgwyl gan fy rheolwr

10

Yn ystod y 12 mis diwethaf mae rhywun wedi siarad a mi am fy nghynnydd

23

Mae gennyf y sgiliau a'r offer cywir i wneud fy ngwaith

7

Teimlaf y gallaf berfformio hyd eithaf fy ngallu bob dydd

18

Rwy’n cael cydnabyddiaeth neu diolch yn rhoelaidd gan eraill am wenud gwaith da

31

 

 

Mae'r canlyniadau'n dangos bod ymgysylltiad gweithwyr yn parhau'n gryf ar draws y Cyngor, gyda gweithwyr yn adrodd am brofiadau cadarnhaol ym mron pob maes a fesurwyd yn yr arolwg.

Mae cydweithwyr yn parhau i fynegi lefelau uchel o falchder wrth weithio i Gyngor Sir Caerfyrddin, ymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus, a hyder yn y cyfraniad pwysig y maent yn ei wneud i gymunedau lleol. Tynnodd gweithwyr sylw hefyd at dimau cefnogol, perthnasoedd cadarnhaol â rheolwyr, cyfleoedd ar gyfer dysgu a datblygu, a manteision gweithio i'r Cyngor. Mae llawer o weithwyr yn parhau i weld y Cyngor fel lle da i weithio a byddent yn ein hargymell fel cyflogwr.

Ochr yn ochr â'r canfyddiadau cadarnhaol hyn, nododd gweithwyr feysydd lle mae angen gwelliant pellach. Roedd y themâu a gododd dro ar ôl tro yn cynnwys cyfathrebu ac ymwybyddiaeth sefydliadol, tryloywder ynghylch penderfyniadau, llais a chyfranogiad gweithwyr, cydnabyddiaeth, gwelededd arweinwyr, pwysau llwyth gwaith a chapasiti'r gweithlu.

Trafodwyd y canfyddiadau yng Nghyfarfod Fforwm Penaethiaid Gwasanaeth y mis diwethaf. Mewn ymateb i'r hyn a ddywedodd gweithwyr wrthym, cytunodd Penaethiaid Gwasanaeth ar nifer o gamau gweithredu ar draws y sefydliad:

  • Strategaeth Cyfathrebu Mewnol newydd, wedi'i chefnogi gan fframwaith cyfathrebu mewnol a fydd yn newid y ffordd rydym yn ymdrin â chyfathrebu ar draws y Cyngor.

  • Fframwaith cydnabod i gefnogi dull mwy cyson o gydnabod cyfraniad gweithwyr.

  • Fframwaith llais a chyfranogiad gweithwyr i gryfhau'r ffordd y gall cydweithwyr rannu eu barn a helpu i lywio penderfyniadau.

  • Safon glir ar gyfer gwelededd arweinyddiaeth ar draws y Cyngor, y mae Penaethiaid Gwasanaeth yn cydweithio i'w datblygu.

  • Bydd ein prosesau cynllunio’r gweithlu presennol yn cael eu defnyddio i feithrin dealltwriaeth gadarn o alw am wasanaethau, pwysau llwyth gwaith a chapasiti’r gweithlu, gan helpu gwasanaethau i nodi a chynllunio’r camau gweithredu sydd eu hangen.

Gyda'i gilydd, mae'r camau hyn yn ymateb yn uniongyrchol i'r themâu o gyfathrebu a thryloywder, llais a chydnabyddiaeth gweithwyr, gwelededd arweinyddiaeth, a rheoli llwyth gwaith a chapasiti'r gweithlu.

Byddwn yn parhau i rannu diweddariadau wrth i'r gwaith hwn ddatblygu, fel y gall cydweithwyr weld sut mae eu hadborth yn dylanwadu ar newid ar draws y Cyngor.

Ochr yn ochr â'r gwaith hwn ar lefel y sefydliad, bydd Timau Rheoli Adrannol yn ystyried eu canlyniadau a'u hadborth eu hunain, yn nodi unrhyw bryderon sy'n benodol i'r adran, ac yn cytuno ar gamau gweithredu lleol priodol. Bydd adrannau'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i weithwyr am y gwaith hwn drwy eu sianeli cyfathrebu adrannol presennol.