Fforwm Staff

Diweddarwyd y dudalen: 04/09/2023

Mae'r Fforwm Staff yn rhoi cyfle i'r Prif Weithredwr, Wendy Walters, gwrdd â staff wyneb yn wyneb a dysgu amdanoch chi a'ch rôl a'r gwaith rydych chi'n ei wneud.

Mae hefyd yn rhoi cyfle i Wendy siarad â chi am ei blaenoriaethau ar gyfer y Cyngor.

Os ydych wedi cael gwahoddiad i gymryd rhan, darllenwch rhai o’r cwestiynau cyffredin isod a fydd o bosibl yn helpu i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Sefydlwyd y Fforwm wyneb yn wyneb hwn i ategu'r mecanweithiau eraill sydd gennym ar waith, i roi llais i staff yn y gweithle.

Mae'r Fforwm Staff yn rhoi cyfle i'r Prif Weithredwr, Wendy Walters, gwrdd â staff wyneb yn wyneb a dysgu amdanoch chi a'ch rôl a'r gwaith rydych chi'n ei wneud. Mae hefyd yn rhoi cyfle i Wendy siarad â chi am ei blaenoriaethau ar gyfer y Cyngor. 

 

Cynhelir cyfarfodydd y Fforwm bob chwarter a dewisir staff i gymryd rhan ar hap, rydym yn ceisio sicrhau bod gan bob cyfarfod groestoriad o staff o bob rhan o'r Cyngor. 

Mae'r cyfarfodydd fel arfer yn para hyd at 1.5 awr, nid oes agenda penodol ac mae'r drafodaeth gyda'r Prif Weithredwr yn anffurfiol, fel arfer yn cynnwys dim mwy nag 8 unigolyn.

Gall cyfranogwyr gyfrannu at y drafodaeth yn Gymraeg neu Saesneg. Gan ei fod yn gyfarfod anffurfiol, ni ddarperir gwasanaeth cyfieithu ar y pryd. 

Byddwch yn derbyn gwahoddiad ysgrifenedig i un o gyfarfodydd y Fforwm – naill ai drwy e-bost neu lythyr. Rydym yn ceisio sicrhau eich bod yn cael eich gwahoddiad o leiaf fis cyn cyfarfod y Fforwm, gan roi digon o amser i chi a'ch rheolwr drefnu rhywun i gyflenwi os oes angen. 

Nid yw cymryd rhan yn orfodol, felly os oes gennych ymrwymiad ymlaen llaw sy'n golygu nad ydych ar gael, y cyfan a ofynnwn yw eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn gynted â phosibl, fel y gallwn ailddyrannu eich lle i rywun arall. 

Mae'n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i'ch rheolwr eich bod wedi cael gwahoddiad. Gofynnwyd iddynt eich cefnogi, drwy sicrhau eich bod yn rhydd i gymryd rhan.

 

Rydym eisiau i'r Fforwm hwn fod yn brofiad agored a chadarnhaol i bawb sy'n cymryd rhan, ac rydym eisiau i chi deimlo'n gyfforddus yn rhannu eich syniadau a'ch barn. Mae hyn yn golygu na fydd y trafodaethau a gewch yn y Fforwm yn cael eu dogfennu na'u rhannu y tu allan i'r Fforwm, ac ni fydd yr hyn a ddywedwch yn cael ei briodoli i chi, oni bai eich bod yn cytuno iddo.  

Os, am unrhyw reswm, credwn y byddai rhywfaint o gamau dilynol yn ddefnyddiol oherwydd yr hyn rydych wedi'i ddweud, ni fyddwn yn cymryd unrhyw gamau nes ein bod yn cytuno ar hyn gyda chi neu aelodau eraill o'r Fforwm.

Os yw cymryd rhan yn y Fforwm yn golygu costau teithio ichi, gallwch gael ad-daliad am y rhain lle bo hynny'n briodol. Cyfeiriwch at ein Tudalen Treuliau ar y fewnrwyd i gael rhagor o wybodaeth am sut a phryd i wneud hawliad, neu gallwch siarad â'ch rheolwr. 

Os yw cymryd rhan yn y Fforwm yn golygu eich bod yn gweithio y tu allan i'ch oriau gwaith arferol, byddwn yn eich talu am eich amser. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar yr Adran Tâl ar ein tudalennau Adnoddau Dynol ar y fewnrwyd