Canlyniadau'r Arolwg Sgiliau Digidol

Diweddarwyd y dudalen: 19/04/2024

Cynhaliwyd Arolwg Sgiliau Digidol rhwng 22 Tachwedd 2023 a 12 Ionawr 2024 a chawsom gyfanswm o 1092 o ymatebion, sef 13.1% o'r gweithlu.

Gwnaethom ofyn amrywiaeth o gwestiynau mewn perthynas â sut rydych chi'n teimlo am eich sgiliau digidol, ac rydym wedi crynhoi'r ymatebion i chi ar y dudalen hon.

Roedd yr arolwg yn gofyn cwestiynau yn seiliedig ar y 5 llinyn Sgiliau Digidol Hanfodol (cyfathrebu, datrys problemau, trafodion, trin a storio data, bod yn ddiogel ac yn gyfreithlon ar-lein).

Fe wnaethoch chi rannu eich cryfderau a'ch gwendidau mewn perthynas â sgiliau digidol a nodi anghenion dysgu digidol i chi a'ch timau.

Nifer yr arolygon a gwblhawyd. Y prif weithredwr, 105. Cymunedau, 496. Gwasanaethau corfforaethol, 64. Lle a seilwaith, 54. Addysg a gwasanaethau plant, 253. Ysgolion, 68. Anhysbys, 52.

Gofynnwyd i'r staff sgorio eu hyder digidol o 10 (yn hyderus iawn) i 1 (ddim yn hyderus o gwbl). Yr ateb mwyaf cyffredin (24.6%) oedd lefel 8, ond gallwn weld o'r graff bod lefelau hyder amrywiol ymhlith y staff.

Sgor hyder digidol y sefydliad. Hyder y staff (10 yn hyderus iawn ac 1 ddim yn hyredus o gwbl).  1, 11. 2, 9. 3, 24. 4, 40. 5, 86. 6, 110. 7, 188. 8, 269. 9, 162. 10, 118.

Diogelwch ar-lein

Roeddem wedi gofyn cwestiynau i chi yn seiliedig ar ddiogelwch ar-lein.

  Nifer (allan o 1092) %
Gallaf osod cyfrinair cryf 1023 94%
Rwy'n gwybod pan fydd gwefan yn ddiogel (e.e. y symbol clo clap) 890 82%
Gallaf adnabod negeseuon e-bost amheus 862 79%
Rhoi gosodiadau preifatrwydd ar fy nghyfrifon cyfryngau cymdeithasol a chyfrifon eraill 814 75%

 

Sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw'n ddiogel ar-lein Nifer (allan o 1092) %
Nac ydw 22 2%
Ddim yn siŵr 38 4%
Gyda chymorth 41 4%
Ydw 943 86%
Ddim yn gwybod 48 4%
Cyfanswm 1092  

 

Sgiliau rhyngrwyd

Roeddem wedi gofyn cwestiynau i chi yn seiliedig ar ddefnyddio'r rhyngrwyd. Gall 94% o'r ymatebwyr fynd ar-lein a gall 94% hefyd ddefnyddio peiriannau chwilio a phrynu eitemau ar-lein. Roedd rhai meysydd allweddol ar gyfer datblygu:


Lawrlwytho ffeil o'r rhyngrwyd, ei harbed a dod o hyd iddi yn ddiweddarach Nifer (allan o 1092) %
Nac ydw 68 6%
Ddim yn siŵr 31 3%
Gyda chymorth 50 5%
Ydw 907 83%
Ddim yn gwybod 36 3%
Cyfanswm 1092  

 

Ychwanegu tudalen we i'ch rhestr o nodau tudalen Nifer (allan o 1092) %
Nac ydw 155 14%
Ddim yn siŵr 52 5%
Gyda chymorth 84 8%
Ydw 763 70%
Ddim yn gwybod 38 4%
Cyfanswm 1092  

 

Defnyddio offer digidol i reoli eich iechyd a'ch llesiant ar-lein Nifer (allan o 1092) %
Nac ydw 139 13%
Ddim yn siŵr 134 12%
Gyda chymorth 37 3%
Ydw 739 68%
Ddim yn gwybod 43 4%
Cyfanswm 1092  

 

Defnyddio'r rhyngrwyd ar gyfer gwasanaethau ar-lein Nifer (allan o 1092) %
Nac ydw 55 5%
Ddim yn siŵr 25 2%
Gyda chymorth 53 5%
Ydw 919 84%
Ddim yn gwybod 40 4%
Cyfanswm 1092  

 

Defnyddio sgyrsiau ar-lein Nifer (allan o 1092) %
Nac ydw 85 8%
Ddim yn siŵr 28 3%
Gyda chymorth 43 4%
Ydw 894 82%
Ddim yn gwybod 42 4%
Cyfanswm 1092  

 

Defnyddio'r Gymraeg yn ddigidol

Roeddem wedi gofyn cwestiynau i chi yn seiliedig ar ddefnyddio'r Gymraeg ac offer cyfieithu ar eich dyfais. Roedd un o'r sylwadau testun rhydd hefyd yn tynnu sylw at yr angen am fwy o wybodaeth am gyfieithu ar lwyfannau fel Microsoft Teams a Cysill a sut i'w defnyddio.

Pe byddech chi eisiau dysgu Cymraeg ar-lein, a fyddech chi'n gwybod ble i wneud hynny? Nifer (allan o 1092) %
Na fyddwn 141 13%
Ddim yn siŵr 89 8%
Gyda chymorth 41 4%
Byddwn 780 71%
Ddim yn gwybod 41 4%
Cyfanswm 1092  

 

Allwch chi ddefnyddio Microsoft Translate? Nifer (allan o 1092) %
Na allaf 301 28%
Ddim yn siŵr 181 17%
Gyda chymorth 57 5%
Gallaf 542 50%
Ddim yn gwybod 11 1%
Cyfanswm 1092  

 

Allwch chi ddefnyddio'r botwm cyfieithu mewn sgwrs Microsoft Teams? Nifer (allan o 1092) %
Na allaf 387 35%
Ddim yn siŵr 277 25%
Gyda chymorth 71 7%
Gallaf 332 30%
Ddim yn gwybod 25 2%
Cyfanswm 1092  

 

Ydych chi'n cyfathrebu yn Gymraeg ar eich dyfais? Nifer (allan o 1092) %
Nac ydw 640 59%
Ydw 385 36%
Ddim yn gwybod 67 6%
Cyfanswm 1092  

 

I'r rhai sy'n cyfathrebu yn Gymraeg:

Allwch chi ddefnyddio Cysill wrth ysgrifennu negeseuon e-bost yn Gymraeg? Nifer (allan o 452) %
Ddim yn siŵr 102 23%
Na allaf 121 27%
Gyda chymorth 32 7%
Gallaf 194 43%
Ddim yn gwybod 3 1%
Cyfanswm 452  

 

Allwch chi newid y gwiriwr sillafu yn Word ac mewn negeseuon e-bost i'r Gymraeg ac yn ôl i'r Saesneg? Nifer (allan o 452) %
Ddim yn siŵr 80 18%
Na allaf 102 23%
Gyda chymorth 33 7%
Gallaf 237 52%
Cyfanswm 452  

Mae 82.6% o'r ymatebwyr wedi helpu rhywun i fynd ar-lein neu ddefnyddio eu dyfais. Nododd cyfanswm o 559 o ymatebwyr eu bod wedi helpu cydweithwyr i fynd ar-lein neu ddefnyddio eu dyfais. Roedd rhai o'r sylwadau testun rhydd yn sôn am yr angen mynych i gynorthwyo staff ag offer digidol newydd, er enghraifft defnyddio SharePoint. Amlygodd sylw arall sut y gallai ein gwasanaethau wneud gwell defnydd o dechnoleg i ddisodli swyddogaethau gwaith papur presennol, a sut y mae angen i ni rannu a dysgu mwy oddi wrth ein gilydd.

A ydych chi wedi helpu unrhyw un i fynd ar-lein neu ddefnyddio ei ddyfais? Nac ydw, 188. Ydw - cydweithwyr, 559. Ydw - ffrindiau/teulu, 812. Ydw - gwirfoddolwyr, 44.

Roeddem wedi gofyn i chi beth fyddai gennych ddiddordeb mewn dysgu amdano. Ymhlith y nifer uchaf o bleidleisiau oedd Microsoft Excel gan 298 o ymatebwyr, Diogelwch Ar-lein gan 232 o ymatebwyr, E-bost gan 211 o ymatebwyr, a Defnyddio'r Gymraeg ar fy nyfais gan 205 o ymatebwyr.

Themâu rhai o'r 129 o sylwadau testun rhydd eraill oedd bod eisiau mwy o gymorth o ran defnyddio SharePoint i arbed, storio a chyrchu dogfennau, archwilio a deall offer deallusrwydd artiffisial, a dysgu am Microsoft Power BI a Power Automate.

Thema testun rhydd arall a ddaeth i'r amlwg drwy'r arolwg oedd sgiliau digidol rheolwyr. Roedd y sylwadau yn amrywio o nodi bod angen mwy o gymorth digidol ar reolwyr newydd a staff sy'n cefnogi rheolwyr yn ddigidol i ystyried sut y gallem ddefnyddio asesiadau sgiliau digidol fel rhan o'n proses recriwtio.

Diddordeb mewn dysgu am Nifer % allan o 1092
Microsoft Excel 298 27%
Diogelwch ar-lein 232 21%
Ebost 211 19%
Defnyddio mwy o Gymraeg ar fy nyfais 205 19%
Deall negeseuon e-bost a sgamiau gwe-rwydo 189 17%
Storio ac arbed ffeiliau ar fy nyfais 186 17%
Microsoft PowerPoint 172 16%
Cadw fy nghyfrifon personol yn ddiogel 152 14%
Hwyluso sesiynau ar-lein (gweminarau) 142 13%
Rheoli fy iechyd a llesiant ar-lein 126 12%
Microsoft Teams 110 10%
Microsoft Word 106 10%
Sut i helpu eraill i ddefnyddio eu dyfais 105 10%
Defnyddio'r rhyngrwyd i ddod o hyd i wybodaeth dda 65 6%
Gwasanaethau cyhoeddus ar-lein 62 6%
Zoom 60 5%
Ymgeisio am swyddi ar-lein 50 5%
Rheoli arian ar-lein 43 4%
Defnyddio ffôn clyfar 41 4%
Teipio / defnyddio bysellfwrdd 38 3%
Cyfanswm y pleidleisiau 2720  

 

  • Hybu ac annog staff i gwblhau modiwl e-ddysgu gorfodol newydd ar Ymwybyddiaeth Seiber yn y Gweithle i roi mwy o wybodaeth am sut i fod yn ddiogel ar-lein, ac archwilio sut y gallwn lunio rhaglen ddiogelwch ar-lein i ddechreuwyr er mwyn hybu gweithlu sy'n ddiogel yn ddigidol.
  • Creu a rhannu adnoddau sy'n cynorthwyo staff i gyrchu gwasanaethau a gwybodaeth ar-lein yn effeithiol (e.e. rheoli iechyd a llesiant ar-lein).
  • Creu adnodd sy'n dangos ac yn hybu'r defnydd o nodweddion cyfieithu ac offer Cymraeg ar ddyfeisiau staff.
  • Hybu ac annog staff i ddatblygu eu sgiliau yn y rhaglenni Microsoft sydd ar gael (Excel, SharePoint, Outlook, Teams, Word, PowerPoint), a hysbysebu cyfleoedd a ariennir yn llawn yn rheolaidd.
  • Datblygu Rhaglen Mentoriaid Digidol sefydledig. Cynnig cyfle i staff ymgymryd â hyfforddiant Mentoriaid Digidol ar draws yr awdurdod i wella'r cymorth rydym yn ei roi i'n gilydd.
  • Archwilio'r defnydd o asesiadau digidol ar ôl recriwtio, a sut y gallwn gefnogi rheolwyr newydd i ddatblygu eu sgiliau ymhellach.
  • Cefnogi'r broses o weithredu Strategaeth Deallusrwydd Artiffisial TG a rhannu adnoddau a fydd yn helpu staff i ddefnyddio deallusrwydd artiffisial yn effeithiol
  • Hysbysebu tudalen fewnrwyd Datblygu eich sgiliau digidol yn rheolaidd i'r holl staff a defnyddio'r holl lwybrau cyfathrebu i gyrraedd cynifer o aelodau staff â phosibl.

Bydd yr arolwg hwn yn llinell sylfaen o ran sgiliau digidol presennol ar draws y sefydliad a bydd yn dylanwadu ar gynllun hyfforddi wrth symud ymlaen. Er mwyn gweithio yn unol â Strategaeth Trawsnewid Digidol Sir Gaerfyrddin, byddwn yn ceisio anfon yr arolwg digidol hwn allan eto ymhen tair blynedd i gymharu sut y mae ein gweithredoedd wedi cael effaith, a sut y gallwn barhau i ddatblygu gweithlu sydd wedi'i alluogi'n ddigidol.

Os hoffech weld adroddiad llawn yr arolwg ar eich maes gwasanaeth, cysylltwch â Holly Rowley: hlrowley@sirgar.gov.uk