Arolwg Gweithio Hybrid 2023 - Fe ddwedsoch chi... fe wnaethon ni wrando
Diweddarwyd y dudalen: 22/05/2026
Mae'r dudalen hon yn crynhoi'r adborth a roesoch inni pan wnaethoch gwblhau'r arolwg gweithio hybrid diweddar. Mae ein tîm Trawsnewid bellach yn gweithio gydag uwch swyddogion yn dadansoddi’r adborth hwn a bydd y tudalennau hyn yn cael eu diweddaru pan fydd rhagor o wybodaeth ar gael.
Cafodd arolwg gweithio hybrid ei gynnal gennym yn ddiweddar, a anfonwyd at ein holl weithwyr aml-leoliad. Cymerodd bron i 1,000 ohonoch ran yn yr arolwg hwn, ac rydym yn hynod ddiolchgar eich bod wedi dewis gwneud hynny.
Neges gan y Tîm Rheoli Corfforaethol
Mae'r arolwg bellach wedi cau, ac mae eich ymatebion wedi eu dadansoddi – gallwch ddysgu mwy drwy ymweld â'n tudalen Arolwg Gweithio Hybrid - Canlyniadau ar y fewnrwyd. Mae'r Tîm Rheoli Corfforaethol wedi cwrdd i fynd drwy'r canlyniadau, ac rydym am roi gwybod ichi nawr am y canfyddiadau a sut byddant yn arwain at addasiadau i'n ffordd o weithio.
Mae'n amlwg o'r adborth fod gweithio hybrid yn gweithio'n dda i reolwyr a staff, gan i lawer ohonoch nodi nifer o fanteision, a'r rheiny'n amrywio o well cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith i fod yn fwy cynhyrchiol. Rydym hefyd yn gweld bod llawer ohonoch yn rhannu eich amser rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio o bell. Fodd bynnag, mae'n glir bod anghysondeb, sy'n peri i rai deimlo nad yw'r sefyllfa'n deg. Nid ydym am gael gwared ar hybrid fel opsiwn, ond roedd yn amlwg yn yr arolwg ei fod yn cael ei ddefnyddio mewn ffyrdd gwahanol iawn, ac, mewn rhai achosion, fel rheswm dros beidio â dod i mewn i'r gweithle - nid dyma yw gweithio hybrid! Mae'n werth nodi fan hyn fod llawer wedi ymateb i ddweud bod yn well ganddynt ddod i mewn i'r swyddfa yn amser llawn, ac mae hynny'n iawn.
Mae gweithio hybrid yn fantais ddewisol nid contractiol, a byddwn yn parhau i'w drin fel hynny. Rydym am gadw'r cynnig gweithio hyblyg, ond am sicrhau bod PAWB yn elwa ar y ffordd hon o weithio, hynny yw, chi a'r busnes.
Felly, er mwyn symud ymlaen mewn ffordd fwy cyson, ein bwriad nawr yw gwneud y newidiadau canlynol:
Y tîm - rydym yn disgwyl i'n holl bobl, sy'n gweithio mewn ffordd hybrid, fod yn y gweithle am o leiaf 40% o'u hwythnos waith. Dyma beth mae llawer ohonoch chi yn ei wneud yn barod, ond er mwyn sicrhau tegwch a chysondeb mae angen ein bod ni i gyd yn gwneud yr un peth. Bydd hyn yn sicrhau bod y ffordd rydym yn gweithio yn ein helpu i'r graddau mwyaf posibl o ran cyflawni ein hamcanion.
Rheolwyr Pobl - mae cael eich gweld yn rhan allweddol o arwain, boed hynny'n arwain tîm o un neu dîm o gannoedd. Nid mater o fod yn 'bresennol' yn unig yw hi; mae'n fwy ynghylch rhyngweithio corfforol, llesiant (chi a'ch tîm), ethos a diwylliant tîm. Oherwydd hynny, rydym yn disgwyl presenoldeb corfforol ychydig yn fwy gan arweinwyr ac rydym yn gofyn iddynt drefnu treulio o leiaf 50% o'u hamser yn gorfforol gyda'u timau.
Rydych wedi dweud wrthym am rai o heriau ymarferol gweithio hybrid, sy'n cynnwys:
- Dim digon o le ar gyfer cyfarfodydd tîm a chydweithio wyneb yn wyneb.
- Swyddfeydd nad ydynt wedi'u cyfarparu'n dda o ran dodrefn a chyfleusterau.
- Cysylltedd Wi-Fi gwael yn rhai o'n hadeiladau.
- Offer TG annibynadwy neu annigonol yn ein mannau gweithio achlysurol.
- Meddu ar y sgiliau priodol i ddefnyddio'r dechnoleg sydd ar gael ar gyfer cyfarfodydd hybrid, yn ogystal â chyfarwyddiadau annigonol i ddefnyddwyr.
- Llefydd parcio.
Rydym felly wedi gofyn i'n tîm Trawsnewid weithio gydag uwch-swyddogion i fynd i'r afael â'r heriau hyn, a chyn gynted ag y bydd ar gael byddwn yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth ar ein tudalen Llais Staff ar y fewnrwyd.
Mae rhai ohonoch hefyd wedi siarad am y risgiau sy'n gysylltiedig â gweithio hybrid, sy'n cynnwys:
- Unigrwydd / arwahanrwydd wrth weithio o bell.
- Llai o synnwyr o berthyn ac o fod mewn cysylltiad ag eraill.
- Diffyg cyswllt o fewn timau
- Llai o gyfleoedd i feithrin a chynnal perthnasoedd gwaith cryf.
- Dechreuwyr newydd ddim yn deall diwylliant y sefydliad a ddim yn dysgu oddi wrth eraill.
- Y broses o wneud penderfyniadau / datrys ymholiadau yn arafach.
- Y gallu i gefnogi llesiant ein staff.
Hefyd mae canfyddiadau astudiaethau allanol, yn ogystal â'r gwersi a ddysgwyd oddi wrth sefydliadau eraill, yn dangos i ni fod cydweithio wyneb yn wyneb yn gwella arloesi a chreadigrwydd ac yn bwysig iawn i sicrhau ein bod yn cynnal ein diwylliant tîm.
Fel Tîm Rheoli Corfforaethol, rydym yn credu bydd yr ymagwedd gyson hon at weithio hybrid yn ein helpu ni i oresgyn y risgiau hyn. Wrth gwrs, byddwn yn adolygu'r trefniadau hyn yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn dal i weithio i ni fel sefydliad.
Bydd ein tîm Gwasanaethau Pobl yn anfon gwybodaeth at ein holl staff sy'n gweithio mewn rôl aml-leoliad i gadarnhau beth mae hyn yn ei olygu o safbwynt contractiol.
Fel rydym wedi'i ddweud o'r cychwyn cyntaf, ffordd newydd o weithio yw hon, nid un gontractiol. Mae'r arolwg yn dweud wrthym ei bod yn gweithio ond bod angen ei haddasu, ac mae hynny'n normal yn ystod proses o newid.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau mewn perthynas â'r neges hon, siaradwch â'ch rheolwr neu Bennaeth Gwasanaeth. Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth ar ein tudalennau mewnrwyd Gweithio Hybrid.
Gan eich Tîm Rheoli Corfforaethol:
Prif Weithredwr - Wendy Walters
Prif Weithredwr Cynorthwyol - Paul Thomas
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol - Jake Morgan
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol - Chris Moore
Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant - Gareth Morgans
Cyfarwyddwr Lle a Seilwaith - Ainsley Williams
Pennaeth Gweinyddiaeth a’r Gyfraith - Linda Rees Jones
Manteision
Rhannodd y rheolwyr eu profiadau o reoli tîm sy'n gweithio o bell ac wyneb yn wyneb a buont yn siarad am y manteision o weithio fel hyn. Roedd y rheolwyr yn tynnu sylw'n gyson at y canlynol:
- Gwell morâl a chymhelliant yn y tîm
- Effaith gadarnhaol ar gynhyrchiant
- Gwell cyfathrebu /cydweithredu drwy Teams a chyfarpar digidol eraill
- Mwy o ffocws ar allbynnau a rheolaeth yn seiliedig ar ymddiriedaeth
- Gwella cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a hyblygrwydd i weithwyr
Heriau
Nododd y rheolwyr hefyd yr heriau ymarferol a'r risgiau sy'n gysylltiedig â rheoli tîm sy'n gweithio mewn ffordd hybrid, tynnwyd sylw at y themâu canlynol:
- Dull anghyson o ran sut / pryd fydd rheolwyr yn cyfathrebu â'u timau
- Sicrhau llesiant staff pan fyddant yn gweithio o bell
- Cydbwyso hyblygrwydd i staff ag anghenion y gwasanaeth
- Gallu addasu eich arddull arwain / rheoli
- Mynediad i le ar gyfer cydweithredu wyneb yn wyneb
- Angen parhaus am ddatblygiadau o ran cymorth technolegol i hwyluso cydweithredu o bell yn ddi-dor
- Angen cymorth corfforaethol i reoli rhai o'r heriau y mae rheolwyr yn eu hwynebu
- Risg o fethu ag adeiladu diwylliant o ymddiriedaeth yn llwyddiannus
- Perygl nad oes gan reolwyr gysylltiad digonol â'u timau
- Risg y bydd y tîm yn ddigyswllt
Manteision
Gofynnwyd i'n staff, sy'n gweithio mewn rolau 'aml-leoliad' rannu eu profiadau o weithio mewn tîm sy'n cyfuno gweithio o bell a gweithio wyneb yn wyneb. Buont yn siarad am fanteision gweithio fel hyn ac yn tynnu sylw yn gyson at y canlynol:
- Mwy o hyblygrwydd sy'n cefnogi gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith
- Llai o bwysau o ran amser
- Effaith gadarnhaol ar lesiant gweithwyr
- Mwy o gyfleoedd i ffocysu a chanolbwyntio
- Mwy o gynhyrchiant ac effeithlonrwydd gyda llai o bethau yn torri ar draws y gwaith wrth weithio o bell
- Llai o gymudo gan arwain at lai o amser segur a mwy o gynhyrchiant
- Gostyngiad mewn costau teithio i unigolion a'r Cyngor
- Effaith amgylcheddol gadarnhaol gan gyfrannu at yr uchelgais Carbon Sero Net
- Teimlad bod rhywun yn ymddiried ynddoch, a'ch bod yn cael eich cefnogi a'ch bod yn cael ymreolaeth sy'n arwain at well morâl
- Dywedodd staff hefyd fod gweithio gartref neu'n agos at adref yn helpu i leihau straen sy'n gysylltiedig â theithio, gan gyfrannu at well cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith
Heriau
Soniodd ein staff hefyd am yr heriau ymarferol a'r risgiau sy'n gysylltiedig â gweithio mewn tîm sydd wedi mabwysiadu dull gweithio hybrid. Roedd y pryderon cyffredinol am y ffordd hon o weithio yn cynnwys:
- Heriau cyfathrebu a chydweithio
- Arafwch o ran gwneud penderfyniadau a datrys ymholiadau
- Yn anoddach i feithrin a chynnal perthnasoedd gwaith a gwaith tîm
- Nid yw pob rheolwr yn derbyn nac yn cefnogi gweithio o bell fel ffordd ddilys ac effeithiol o weithio
- Dulliau anghyson o ran cytundebau gwaith hybrid ar draws timau gan greu ymdeimlad o annhegwch i rai
- I rai, nid oes ymreolaeth i ddewis pryd i weithio o'r swyddfa
- Teimlad o ddiffyg ymddiriedaeth rhwng staff a rheolwyr mewn rhai meysydd
- Cael eich gofyn i deithio / cymudo yn ddiangen
- Dim hyblygrwydd i rai timau - amserlenni anhyblyg yn eu lle
- Teimlad bod amser teithio a chymudo yn gwastraffu amser
- Effaith amgylcheddol taith gymudo hir diangen
O ran gweithio o bell, tynnodd staff sylw at yr heriau canlynol:
- Dim digon o fannau gweithio achlysurol
- Offer TG annibynadwy ac annigonol mewn rhai o'r mannau gweithio achlysurol
- Diffyg sgiliau i ddefnyddio offer digidol yn effeithiol
- Teimlad o unigrwydd ac arwahanrwydd
- Biliau ynni uwch wrth weithio gartref
Mewn perthynas â gweithio o'r swyddfa, mynegwyd y pryderon canlynol:
- Mynediad i gyfleusterau parcio diogel, cyfleus a digonol
- Dim digon o fannau cyfarfod ar gyfer cyfarfodydd tîm wyneb yn wyneb ac mae'r rhai sydd ar gael yn anaddas
- Diffyg gwybodaeth hygyrch o ran archebu ystafelloedd cyfarfod
- Cysylltedd Wi-Fi gwael yn rhai o'n hadeiladau
- Offer TG annibynadwy ac annigonol mewn rhai lleoliadau
- Diffyg swyddfeydd pwrpasol
- Nifer cyfyngedig o ddesgiau
- Cynllun swyddfa gwael
- Nid yw pob swyddfa yn cynnwys cyfarpar angenrheidiol o ran dodrefn
- Materion sy'n ymwneud â thymheredd a sŵn
- Cyflwr gwael swyddfeydd
- Pryderon am amgylchedd cyffredinol y swyddfa sy'n effeithio ar gynhyrchiant
- Pryderon am amgylchedd cyffredinol y swyddfa sy'n effeithio ar lesiant gweithwyr
Manteision
Gofynnwyd i staff am fanteision cynnal neu fynychu cyfarfodydd hybrid, a daeth y themâu canlynol i'r amlwg:
- Gwell hygyrchedd i gyfarfodydd
- Mwy o bresenoldeb a chyfranogiad mewn cyfarfodydd
- Cyfarfodydd byrrach sy'n arwain at lai o amser segur a mwy o gynhyrchiant
- Llai o deithio diangen
- Llai o gostau teithio cysylltiedig
- Effeithiau amgylcheddol cadarnhaol e.e., lleihau ôl troed carbon drwy gyfyngu ar deithio
- Cost-effeithiol i sefydliadau ac unigolion
Heriau
Gofynnwyd hefyd i staff am yr heriau yr oeddent wedi'u profi wrth gynnal neu fynychu cyfarfodydd hybrid, cyfeiriwyd at y pryderon canlynol:
- Diffyg ymwybyddiaeth o ble mae cyfleusterau hybrid
- Argaeledd ystafelloedd a phryderon ynghylch archebu
- Diffyg sgiliau i ddefnyddio’r dechnoleg
- Cyfarwyddiadau annigonol i ddefnyddwyr o ran sut i ddefnyddio'r dechnoleg
- Cysylltedd a materion sain yn rhwystro cyfathrebu effeithiol
- Sgiliau cadeirio anghyson, gan arwain at anghydraddoldeb o ran cyfranogiad - angen sgiliau gwahanol wrth gadeirio cyfarfod hybrid o'i gymharu â chyfarfod cwbl rithwir neu gyfarfod wyneb yn wyneb yn unig
Gofynnwyd i staff am eu profiad o ddefnyddio ein mannau gweithio achlysurol Mynegwyd y pryderon canlynol:
- Diffyg ymwybyddiaeth bod y cyfleusterau hyn yn dal i fodoli
- Diffyg eglurder ynghylch lleoliad cyfleusterau
- Problemau o ran archebu mannau gweithio achlysurol - gofyn am brosesau sy'n haws i'w defnyddio
- Anhawster dod o hyd i fannau gweithio achlysurol, gyda lleoliadau'n newid yn aml
- Dim gwybodaeth glir / hygyrch ynghylch mannau gweithio achlysurol
- Teimlad nad yw'r mannau hyn yn cael eu rheoli na'u monitro
- Mae rhai mannau gweithio achlysurol yn cael eu defnyddio gan dimau eraill neu'n cael eu defnyddio at ddibenion gwahanol.
- Diffyg glendid a chynnal a chadw, gyda rhai yn nodi nad yw'r arwynebau gwaith na'r cadeiriau yn lân
- Eitemau personol yn cael eu gadael ar ôl
- Pryderon am ddiffyg offer neu'r offer anghywir, megis monitorau, gorsafoedd docio, ceblau, a pherifferolion
- Offer TG annibynadwy mewn rhai lleoliadau
- Problemau gyda chysylltedd
- Heriau sy'n gysylltiedig â phreifatrwydd
- Clywed trafodaethau cyfrinachol ar ddamwain
- Sŵn yn tarfu, sy'n golygu ei bod yn anodd canolbwyntio
Pa gamau ydym wedi'u cymryd?
Llais Staff
Arolwg Ymgysylltu â Staff - 2025
Arolwg Ymgysylltu â Staff - Fe Ddwedsoch chi, Fe Wnaethon ni Wrando 2025
Arolwg Ymgysylltu â Staff 2024
Fe ddwedsoch chi, fe wnaethon ni wrando 2024
Arolwg Ymgysylltu â Staff 2023
Fe ddwedsoch chi, fe wnaethon ni wrando 2023
Fe ddwedsoch chi, fe wnaethon ni wrando 2022
Fforwm Staff
Mwy ynghylch Llais Staff
