Arolwg Ymgysylltu â Staff - Fe Ddwedsoch chi, Fe Wnaethon ni Wrando 2025
Diweddarwyd y dudalen: 29/05/2026
Pan wnaethoch chi rannu eich barn yn Arolwg Ymgysylltu â Staff 2025, fe ddwedsoch chi wrthon ni am yr hyn oedd yn gweithio, ddim yn gweithio a ble roeddech chi am weld newid. Rydyn ni wedi defnyddio'r adborth hwnnw i lunio gweithredoedd go iawn ar draws y sefydliad.
Dyma rai enghreifftiau o sut mae eich adborth wedi dylanwadu'n uniongyrchol ar yr hyn rydyn ni'n ei wneud.
Fe ddwedsoch chi wrthon ni fod angen i ni wneud mwy i gydnabod a chefnogi niwroamrywiaeth yn y gwaith.
Beth sydd wedi newid
Mae Polisi Niwroamrywiaeth newydd wedi'i ddatblygu i helpu i ddatblygu amgylchedd mwy cynhwysol i bawb. Mae angen i'r polisi bellach fynd drwy'r broses gymeradwyo briodol. Pan fydd y broses wedi’i chwblhau, byddwn yn rhoi gwybod i bawb ble y gallan nhw ei ddarllen a pha gefnogaeth sydd ar gael. Yn ogystal â'r polisi, rydyn ni'n cryfhau canllawiau, cyfleoedd dysgu ac adnoddau llesiant i gefnogi staff a rheolwyr. Mae rhai adnoddau niwroamrywiaeth eisoes ar gael ar ein tudalennau Dysgu a Datblygu a Llesiant Gweithwyr ar y fewnrwyd.
Fe ddwedsoch chi wrthon ni nad yw polisïau amser o'r gwaith bob amser yn cael eu deall neu eu rhoi ar waith yn gyson.
Beth sydd wedi newid
Rydyn ni'n datblygu ymgyrch gyfathrebu glir i godi ymwybyddiaeth am y gwahanol opsiynau sydd ar gael o ran amser o'r gwaith, adolygu prosesau ymgeisio i'w gwneud yn symlach, a nodi lle mae angen cymorth neu hyfforddiant ychwanegol ar reolwyr. Nod y gwaith hwn yw gwneud hyblygrwydd yn gliriach, yn decach ac yn haws i'w ddeall.
Fe ddwedsoch chi wrthon ni fod llesiant yn ymwneud â theimlo eich bod yn cael eich gwerthfawrogi, eich cefnogi, a'ch bod yn gallu ffynnu yn y gwaith.
Beth sydd wedi newid
Helpodd eich adborth i lunio cyd-ddealltwriaeth o lesiant ar draws y sefydliad, gyda chefnogaeth ac ymrwymiad gweladwy uwch-arweinwyr. Rydyn ni'n parhau i hyrwyddo adnoddau iechyd meddwl, hunangymorth, Hyrwyddwyr Iechyd a Llesiant, ac opsiynau gofal iechyd fforddiadwy - gan ei gwneud hi'n haws dod o hyd i help pan fydd ei angen arnoch.
Fe ddwedsoch chi wrthon ni fod llwyth gwaith a phwysau o ran capasiti yn bryder.
Beth sydd wedi newid
Mae rheolwyr yn cael eu hannog i adolygu llwythi gwaith yn fwy cyson, gyda chefnogaeth timau Trawsnewid a Digidol corfforaethol. Rydyn ni hefyd yn edrych ar sut y gallai awtomeiddio a Deallusrwydd Artiffisial leihau'r baich gweinyddol a rhyddhau amser ar gyfer gwaith gwerth uwch.
Fe ddwedsoch chi wrthon ni y gellid gwella cyfathrebu mewnol ac amlygrwydd arweinwyr.
Beth sydd wedi newid
Mae grŵp prosiect pwrpasol yn adolygu sut rydyn ni'n cyfathrebu â gwahanol grwpiau o weithwyr, gyda chefnogaeth arolygon, grwpiau ffocws, ac ymchwil arfer gorau. Ar yr un pryd, mae arweinwyr yn dod yn fwy amlwg drwy ymweld â gwasanaethau, fforymau, cyfleoedd ymgysylltu rheolaidd, a chyfarfodydd gyda dechreuwyr newydd.
Fe ddwedsoch chi wrthon ni yr hoffech ddull mwy cyson ac ystyrlon o gydnabod staff ar draws y sefydliad.
Beth sydd wedi newid
Rydyn ni'n cymryd camau i ddatblygu fframwaith cydnabod staff cyson a chlir sy'n gweithio i bawb. Bydd grŵp prosiect yn cael ei sefydlu i edrych ar syniadau ac arferion gorau, gyda grwpiau ffocws staff yn helpu i lunio sut beth yw cydnabyddiaeth dda yn ymarferol. Ein nod yw creu dull sy'n teimlo'n ddilys, yn deg ac yn cyd-fynd â'r hyn y mae staff wedi dweud wrthon ni sy'n cael ei werthfawrogi - gyda chefnogaeth offer ymarferol a chanllawiau i reolwyr fel bod cydnabyddiaeth yn cael ei roi ar waith gyson ar draws timau.
Fe ddwedsoch chi wrthon ni eich bod am i'r broses arfarnu ac adolygu perfformiad fod yn deg, yn dryloyw a’i bod yn cael ei chymhwyso'n gyson ar draws y sefydliad.
Beth sydd wedi newid
Rydyn ni wedi cwblhau adolygiad o'r broses arfarnu, gan ddefnyddio eich adborth o'r Arolwg Ymgysylltu â Staff i helpu i nodi lle'r oedd angen gwelliannau. Mae'r gwaith hwn yn canolbwyntio ar sicrhau bod disgwyliadau'n glir, sgyrsiau'n ystyrlon, a bod y broses yn cael ei chymhwyso'n gyson ar draws timau.
Bydd y dull diwygiedig hwn yn cefnogi sgyrsiau perfformiad a datblygu o ansawdd uchel ac yn cyd-fynd yn agosach â'n gwerthoedd a'n hymddygiadau craidd fel Un Cyngor - gan helpu pawb i ddeall nid yn unig yr hyn sy'n cael ei ddisgwyl, ond sut rydyn ni'n gweithio gydag eraill. Rydyn ni hefyd yn datblygu canllawiau i gefnogi rheolwyr, fel bod modd defnyddio arfarniadau fel cyfle cadarnhaol i gydnabod gwaith da, trafod datblygu, a chytuno ar y camau nesaf, yn hytrach nag ymarfer trafodaethol.
Ni fyddai'r gwaith hwn wedi digwydd heb staff yn dweud wrthon ni beth sy'n bwysig iddyn nhw.
Mae'r Arolwg Ymgysylltu â Staff yn rhoi llais i bawb, ac mae'n dylanwadu ar flaenoriaethau, polisïau a sut rydyn ni'n gweithio gyda'n gilydd. Mae rhai newidiadau yn cymryd amser, ond mae eich adborth yn ein helpu i bennu'r cyfeiriad ar gyfer y dyfodol.
Pan fydd Arolwg Ymgysylltu â Staff 2026 yn lansio ym mis Mehefin, bydden ni'n eich annog i gymryd rhan.
P'un a yw'ch profiad yn gadarnhaol, heriol, neu rywle yn y canol - mae eich barn yn ein helpu i ddeall beth sy'n digwydd ar lawr gwlad a ble mae angen i ni ganolbwyntio arno nesaf.
Llais Staff
Arolwg Ymgysylltu â Staff - 2025
Arolwg Ymgysylltu â Staff - Fe Ddwedsoch chi, Fe Wnaethon ni Wrando 2025
Arolwg Ymgysylltu â Staff 2024
Fe ddwedsoch chi, fe wnaethon ni wrando 2024
Arolwg Ymgysylltu â Staff 2023
Fe ddwedsoch chi, fe wnaethon ni wrando 2023
Fe ddwedsoch chi, fe wnaethon ni wrando 2022
Fforwm Staff
Mwy ynghylch Llais Staff
